Lliw primaidd
Y lliwiau primaidd a elwir hefyd yn lliwiau cynradd yw'r lliwiau na ellir eu cynhyrchu trwy gymysgu lliwiau eraill. Y lliwiau cynradd mewn celf yw coch, melyn a glas. Gellir ffurfio pob lliw pur trwy gymysgu lliwiau cynradd mewn gwahanol gyfrannau. Penderfyniad dynol yw hyn.
O ran golau, ffiseg a ffisioleg a gwyddoniaeth cyfeirir at y lliwiau primaidd fel glas, gwyrdd a choch a ddewisir fel lliwiau primaidd wedi eu seilio ar symptomau yn y retina yn y llygad. Gall unrhyw liw arall, lliwiau eilradd gael eu creu wrth gymysgu'r lliwiau yma.
Biolegol[golygu | golygu cod y dudalen]
Dydy lliwiau primaidd ddim yn cysyniad ffisegol wedi ei reoli gan olau ond yn hytrach yn gysyniad biolegol yn ddibynnol ar ymateb ffisiolegol y lygad dynol i olau. Yn fras, mae golau ar sbectrwm di-derfyn o donfeddi, sy'n golygu, mewn realiti bod dewis di-bren-draw bron o liwiau. Ond, mae'r lygad dynol dim ond yn cynnwys tri fath o dderbynwyr, a elwir yn 'cones'. Mae'r rhain yn ymateb i donfeddi sbesiffig o goch, gwyrdd a glas golau. Mae pobl, a rhywogaethau eraill, sy'n meddu ar y tri math o dderbynyddion yma yn cael eu galw, trichromatig.
Creu lliwiau mewn Dylunio Graffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae dwy ffordd wahanol i gymysgu lliwiau ym maes celf a dylunio graffeg, sef yn atodol (additive) neu yn tynnol (subtractive). Mae'r ddau ddull yn defnyddio lliwiau primaidd.
- Atodol - y lliwiau atodol yw coch, gwyrdd a glas. Defnyddir yr atodol, er enghraiff mewn sgriniau teledu a chyfrifiadur. Yn y system atodol lliw allbynnol y cyfrwng (sgîn) yw du. Po fwyaf o liw a ychwanegir y mwyaf lliwgar bydd y lliw a arddangosir.
- Tynnol - y liwiau tynnol yw magenta, melyn a cyan. Defnyddir ar gyfer argraffu lliw ar bapur a chyfryngau tebyg. Yn y system tynnol bydd y cyfrwng (e.e. papur) yn wyn. Po fwyaf o liw a ychwanegir, y tywyllaf fydd y canlyniad. Y system tynnol yw'r un sy'n sail i'r system CMYK a ddefnyddir yn y diwydiant dylunio graffig.
Celf[golygu | golygu cod y dudalen]
Daw ymdriniaeth o liwiau a lliwiau cynradd o bwys mawr yn y byd celfyddydol. Creau'r mudiad Avant-garde y grŵp De Stijl o'r Iseldiroedd mewn dim ond defnyddio lliwiau primaidd (a hefyd du, gwyn a llwyd) yn eu gwaith gan mai dyna oedd gwir liwiau handofol heb ymyraeth ychwanegolion. Roeddynt am dadwneud unrhyw beth oedd yn lefethair ar symlrwydd a gwir natur goddrych.
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
- Defnyddio lliwiau primaidd
Composition décentralisée gan Theo van Doesburg, 1924, Solomon R. Amgueddfa Guggenheim, Efrog Newydd, cymynrodd Richard S. Zeisler, 2007