Lliw
Gwedd
| Enghraifft o: | nodwedd ffisegol |
|---|---|
| Math | ffenomen optegol, nodwedd, qualia |
| Y gwrthwyneb | dim lliw |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01sdr |
| Thesawrws y BNCF | 2005 |
Nodwedd weledol sy'n deillio o'r goleuni gweladwy y mae gwrthrychau'n ei daflu, ei drosglwyddo neu ei gynhyrchu yw lliw.[1]

Prif liwiau
[golygu | golygu cod]Ceir lliwiau cynradd (hefyd cysefin), lliwiau eilradd a lliwiau trydyddol.
- Cynradd: coch, melyn, glas
- Eilradd: oren, gwyrdd, porffor
- Trydyddol: fermiliwn, ambr, melynwyrdd (gwyrddfelyn), gwyrddlas (glaswyrdd), fioled, majenta
- Eraill: du, gwyn
Geiriau lliwiau yn Gymraeg
[golygu | golygu cod]Yn y Gymraeg, gall lliw fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd, yn ddibynnol ar yr enw e.e. buwch wen, tarw gwyn; car glas, carreg las. Ceir hefyd ffurf luosog, a ddaw ar ôl enw lluosog - er bod yr arferiad hwn yn prysur ddiflannu (2015) e.e. dant gwyn, dannedd gwynion; pesel felen, pensiliau melynion; dyn du, dynion duon.
| Lliw | Ffurf fenywaidd | Ffurf luosog | Geiriau traddodiadol |
|---|---|---|---|
| Brown | - | - | Gwinau |
| Coch | - | Cochion | - |
| Du | - | Duon | - |
| Glas | - | Gleision | - |
| Gwyn | Gwen | Gwynion | - |
| Gwyrdd | Gwerdd | Gwyrddion | - |
| Melyn | Melen | Melynion | - |
| Llwyd | - | Llwydion | - |
| Oren | - | - | Melyngoch |
| Porffor / Piws | - | - | Glasgoch |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ lliw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2021.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
