Brown
Gwedd
| Enghraifft o: | lliw, lliw a enwir gan HTML4 |
|---|---|
| Math | goleuni |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09q2t |
| Quora | Color-brown |

Lliw yw brown; dyma liw rhisgl coed, lliw gwallt, pridd neu fwd. Mae weithiau'n symbol o dlodi. Lliw cyfansawdd ydyw a gaiff ei wneud drwy uno coch, du a melyn, gan yr argraffydd; gellir defnyddio glas yn lle du.[1][2] Ar sgrin deledu (y model RGB) caiff ei wneud drwy uno coch a gwyrdd.
Mewn sawl ymchwil drwy Ewrop, dyma'r lliw lleiaf poblogaidd.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r gair yn fenthyciad o'r iaith Saesneg. Cyn tua 200 mlynedd yn ôl roedd y termau 'cochddu', 'cethin' (brown tywyll), 'gwinau' (browngoch) neu 'lwyd' yn cael eu defnyddio. Gwelir enghreiffitiau o hyn yn enwau'r gwyfynnod: y Brychan cochddu a'r Teigr cochddu ac yn yr hen bennill 'Ceffyl gwinau yn y cae...'
