Glas
Jump to navigation
Jump to search
Lliw yw glas, yn cyfateb i olau â thonfedd o tua 440–490 nanomedr. Glesni yw'r cyflwr o fod yn las. Yn Gymraeg, arferai'r gair 'glas' gyfeirio at y lliwiau yr ydym yn eu galw'n gwyrdd a llwyd erbyn hyn (ystyriwch y gair 'glaswellt' er enghraifft).
Mae glas yn un o'r lliwiau primaidd ynghyd â coch a gwyrdd ar y sbectrwm biolegol, a gyda melyn yn y sbectrwm celf.