Libia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Libya)
Libia
Mathgwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad Edit this on Wikidata
Lb-Libyen.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasTripoli Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,678,567 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Awst 1551 (Tripoli Eyalet)
  • 2 Mawrth 1977 (Great Socialist People's Libyan Arab Jamahiriya)
  • 1 Medi 1969 (Libyan Arab Republic)
  • 24 Rhagfyr 1951 (Kingdom of Libya) Edit this on Wikidata
AnthemLibya, Libya, Libya Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAbdulhamid Dbeibeh Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, EET, Africa/Tripoli Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Libia Libia
Arwynebedd1,759,541 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Aifft, Swdan, Tiwnisia, Algeria, Tsiad, Niger, Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27°N 17°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholHouse of Representatives, High Council of State Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Chairman of the Presidential Council Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMohamed al-Menfi Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Libia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAbdulhamid Dbeibeh Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$39,798 million, $45,752 million Edit this on Wikidata
ArianDinar Libia Edit this on Wikidata
Canran y diwaith19 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.467 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.718 Edit this on Wikidata

Gwlad yng ngogledd Affrica, sy'n ffinio â'r Môr Canoldir, yw Libia. Mae wedi ei lleoli rhwng yr Aifft i'r dwyrain, Swdan i'r de-ddwyrain, Tsiad a Niger i'r de ac Algeria a Tiwnisia i'r gorllewin. Ei phrifddinas yw Tripoli. Tair rhanbarth draddodiadol y wlad yw Tripolitania, y Fezzan a Cyrenaica. Mae'r wlad yn un o'r 10 gwlad sy'n cynhyrchu mwyaf o olew drwy'r byd.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae rhan fawr o Libia'n gorwedd yn anialwch y Sahara, gyda 1,800,000 kilometr sgwar (700,000 milltir sgwar). Hi yw'r bedwaredd wlad fwyaf yn Affrica, a'r 17ed yn y byd. Mae 1.7 miliwn o drigolion y wlad yn byw yn Tripoli, y brif ddinas, allan o boblogaeth o 6.4 miliwn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynhanes[golygu | golygu cod]

Celfyddyd cynhanes mewn ogof yn Tadrart Acacus.

Dros 10 mil o flynyddoedd yn ôl roedd 90% o'r wlad yn llawn o blanhigion a choed, gyda hinsawdd debyg i wledydd y Canoldir. Dengys tystiolaeth archaeolegol mai'r Berberiaid oedd yn byw yn y rhan yma o Affrica yn Oes Newydd y Cerrig. Gallent dyfu cnydau a magu anifeiliaid.

Y Ffeniciaid a'r Groegwyr[golygu | golygu cod]

Tua 500 CC roedd dylanwad Ffeniciaid ar yr ardal yn gryf a gwelwyd sefydlu tair dinas yn yr ardal rydym heddiw'n ei alw'n Tripolis ("tair dinas"). Erbyn 630 roedd yr Hen Roegiaid wedi sefydlu 630 BC, porthladd Cyrene ac yna pedair dinas arall yn ystod y blynyddoedd dilynol, a galwyd rhain y Pentapolis ("pum dinas").

Tyfodd Cyrene yn un o ganolfannau celfyddydol ac academig drwy gydol y byd Groegaidd, gyda'i hysgol meddygol a phensaerniol a'i chanolfannau dysg heb eu hail drwy'r byd.

Y Rhufeiniaid[golygu | golygu cod]

Ymosododd y Rhufeiniaid ar yr ardal o gwmpas Tripoli) yn 106 CC ac erbyn 64 CC roedd llengoedd Iwl Cesar wedi cadarnhau a chryfhau'r dair ardal yn Rhanbarth Rufeinig, gan greu (o ran tiriogaeth) am y tro cyntaf y ffiniau presennol.

Llewyrchodd yr economi am rai canrifoedd o dan y Rhufeiniaid.

Chwyldro 1969[golygu | golygu cod]

Ar y 1af o Fedi 1969 cafwyd coup d'état yn y wlad a daeth Muammar al-Gaddafi i rym ar ôl trechu'r Brenin Idris tra fod y brenin yn Nhwrci yn cael triniaeth meddygol.

Chwyldro 2011[golygu | golygu cod]

Baner 1951 - 1969, a ddefnyddiwyd cyn Gaddafi ac a ddefnyddiwyd gan yr ochr wrth-Gaddafi yn ystod protestiadau 2011 fel baner de-facto'r Weriniaeth newydd.

Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â Gaddafi a'i ddull unbeniaethol o reoli. Dyw hyn ddim yn syndod o gofio fod y ddwy wlad yma (Tiwnisa a'r Aifft) o fewn tafliad carreg i Lybia (ffiniau dwyreiniol a gorllewinol).

Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw.

Ar yr 17fed o Fawrth pasiwyd "mesur 1973" gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o 10 pleidlais i 0 gyda Rwsia, Tsieina ac India yn ymatal. Roedd y mesur yn caniatau gwaharddiad hedfan ac i warchod trigolion Lybia "drwy unrhyw ddull angenrheidiol". Deuddydd wedyn roedd Awyrlu Ffrainc wedi ymosod ar 4 o danciau Gaddafi.[1]

Economi[golygu | golygu cod]

Mae Libia'n wlad ffynnianus sy'n elwa o'r cyfoeth olew a geir yn Niffeithwch Libia a mannau eraill yn ne'r wlad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]