Fezzan

Oddi ar Wicipedia
Fezzan
Mathtirlun Edit this on Wikidata
Poblogaeth442,090 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladLibia Edit this on Wikidata
Arwynebedd551,170 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.3328°N 13.4253°E Edit this on Wikidata
Map

Un o dri rhanbarth traddodiadol Libia yw'r Fezzan (Arabeg: فزان Fuzzan). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin y wlad yn rhan ogleddol y Sahara.

Mae'r rhan fwyaf o'r Fezzan yn anialwch tywodlyd neu garregog gyda'r boblogaeth wedi'i chanoli yn y gwerddonnau.

Bu gan y Garamantes deyrnas gref yn y Fezzan (500CC - 500OC). Roedd eu prifddinas yn Germa, tua 150 km i'r gorllewin o Sebha. Ymddengys fod eu crefydd wedi ei seilio ar grefydd yr Hen Aifft, ac roedd eu meirwon yn cael eu claddu mewn pyramidiau bychain. Roedd ganddynt gysylltiadau masnachol â'r Swdan a Niger, dros y Sahara, gan brynu a gwerthu ifori, metalau gwerthfawr fel aur ac arian, a chaethweision hefyd.

Bu'r Fezzan yn dalaith o fewn Libia hyd 1963.

Eginyn erthygl sydd uchod am Libia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato