Diffeithwch Libia
Gwedd
![]() | |
Math | anialwch ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sahara ![]() |
Sir | Kufra District, Butnan District ![]() |
Gwlad | Libia, Yr Aifft, Swdan ![]() |
Arwynebedd | 1,100,000 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,024 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 24°N 25°E ![]() |
![]() | |
Mae Diffeithwch Libia yn rhan o anialwch y Sahara. Gorwedd y rhan fwyaf o'r diffeithwch o fewn Libia ei hun ac yn llenwi'r rhan fwyaf o ddwyrain y wlad ond mae'n cynnwys rhan o ogledd-orllewin Yr Aifft yn ogystal: (gwerddon Siwa, er enghraifft).
Mae'r rhan fwyaf o'r diffeithwch yn isel ac ni cheir bryniau ond yn y de ac ymyl gogleddol y diffeithwch. Ychydig iawn o werddonau a geir yno ond mae ganddi gronfeydd olew anferth o dan ei hwyneb.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwelwyd ymladd ffrynig rhwng byddin Montgomery a'r Afrika Korps Almaenig yng ngogledd y diffeithwch ac ar yr arfordir, yn arbennig yn Tobruk a Benghazi.