Muammar al-Gaddafi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Muammar al-Gaddafi
Muammar al-Gaddafi at the AU summit-LR.jpg
Ynganiad Ar-Muammar al-Qaddafi.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd 19 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Qasr Abu Hadi Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Hydref 2011 Edit this on Wikidata (69 oed)
Achos: anaf balistig, Artaith Edit this on Wikidata
Sirt Edit this on Wikidata
Alma mater Benghazi Military University Academy, University of Libya Edit this on Wikidata
Gwaith Gwleidydd, awdur, swyddog Edit this on Wikidata
Priod Fethiye Nuri al-Khaled, Safia Farkash Edit this on Wikidata
Plant Al-Saadi Gaddafi, Saif al-Islam al-Gaddafi, Hannibal Muammar Gaddafi, Mutassim Gaddafi, Saif al-Arab Gaddafi, Khamis al-Gaddafi, Muhammad Gaddafi, Ayesha Gaddafi Edit this on Wikidata
Gwobr/au Order of the White Lion, Urdd y Seren Iwgoslaf, Order of Stara Planina, Order of Bohdan Khmelnytsky, Urdd dros ryddid, Xirka Ġieħ ir-Repubblika, Order of the Republic of The Gambia Edit this on Wikidata
Llofnod
Muammar al-Gaddafi Signature.svg

Arweinydd Libia oedd Muammar Abu Minyar al-Gaddafi (7 Mehefin 194220 Hydref 2011), neu'r Milwriad Gaddafi (Arabeg : معمر القذافي, Muʿammar Al-Qaḏâfî ; ceir sawl ffurf arall ar ei enw wedi'i drawslythrennu o'r Arabeg).

Cafodd ei eni yn Sirt, Libia, yn fab i fugail tlawd. Ef oedd arweinydd de facto Libia ers 1970 yn sgîl gwrthdroi'r llywodraeth yn 1969 mewn coup d'état a ddiorseddodd y Brenin Idris. Nid oedd yn dal swydd wleidyddol fel y cyfryw, gan adael gwleidyddion eraill i fod yn arlywydd a gweinidogion swyddogol, ac mae'n cael ei adnabod fel "Tywysydd Chwyldro Mawr Gweriniaeth Boblogaidd Sosialaidd Arabaidd Fawr Libia" neu "y Brawd-dywysydd". Fel arweinydd mae Gadaffi wedi cynnig "trydydd lwybr" i'r gwledydd sy'n datblygu a'r byd Arabaidd, athroniaeth a geir yn ei lyfr adnabyddus Y Llyfr Gwyrdd.

Gwrthryfel 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwrthryfel Libia, 2011

Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â'r unben Gaddafi. Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw. Anerchodd y dorf sawl gwaith i geisio eu tawelu. Bu farw Gaddafi yn ei ddinas enedigol, Sirt, yn dilyn ymladd rhwng y ddwy ochr. Bu farw ei fab Moatassem Gaddafi yn y frwydr hon. Bu farw ei fab ieuaf Khamis al-Gaddafi yn 2012.