Undeb y Maghreb Arabaidd
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhanbarthol, political economic union, supranational union, cydffederasiwn |
---|---|
Rhan o | Maghreb Economic Area |
Dechrau/Sefydlu | 1989 |
Sylfaenydd | Moroco, Algeria, Tiwnisia, Libia, Mawritania |
Enw brodorol | اتحاد المغرب العربي |
Rhanbarth | Al-Magreb al-Aqsa, Al-Maghrib al-Awsat, Al-Maghreb al-Adna |
Gwefan | https://maghrebarabe.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd Undeb y Maghreb Arabaidd (Arabeg: اتحاد المغرب العربي Ittihad al-Maghrib al-Araby, Ffrangeg: Union du Maghreb arabe) yn 1989 fel cytundeb masnach pan-Arabaidd gyda'r nod o hyrwyddo undeb economaidd a gwleidyddol yn y Maghreb Mawr yng ngogledd-orllewin Affrica. Cyfeirir at yr undeb fel UMA fel rheol.
Ceir pum aelod-wladwriaeth, sef Algeria, Libia, Mauritania, Moroco, a Tiwnisia. Lleolir y pencadlys yn Rabat, prifddinas Moroco.
Y problemau gwleidyddol rhanbarthol mwyaf sy'n wynebu'r Undeb yw'r sefyllfa yn nhiriogaeth dadleuol Gorllewin Sahara, a reolir gan Moroco ond a hawlir gan fudiadau dros annibyniaeth, a'r tensiynau rhwng Moroco ac Algeria sydd wedi arwain at gau'r ffin rhwng y ddwy wlad a llesteirio datblygiad cysylltiadau cludiant rhanbarthol trwy Algeria.
Yn 2023, mae'r prosiect arian sengl yn yr ardal yn parhau i fod yn dechnegol ymarferol ond yn wleidyddol anfeidrol.[1].
Aelodau
[golygu | golygu cod]- Algeria (1989)
- Libia (1989)
- Mauritania (1989)
- Moroco (1989)
- Tiwnisia (1989)
Yn 16fed sesiwn gweinidogion tramor UMA, a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 1994 yn Algiers, gwnaeth yr Aifft gais ffurfiol i ddod yn aelod.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol