Y Gwanwyn Arabaidd
Cyfres o brotestiadau a gwrthryfeloedd mewn llawer o wledydd y Byd Arabaidd a thu hwnt yw Y Gwanwyn Arabaidd (neu Protestiadau'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, 2010–2011). Taniwyd y wreichionen gyntaf yn Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia. Dilynwyd hyn gan gyfres o brotestiadau gan y werin a alwyd yn Chwyldro Jasmin neu Intifada Tiwnisia.

Ymledodd y protestiadau hyn ar hyd a lled y gwledydd Arabaidd: yr Aifft, Algeria, Bahrein, Jibwti, Gorllewin Sahara, Gwlad Iorddonen, Iran, Ciwait, Libia, Moroco, Tiwnisia a Iemen gyda phrotestiadau llai yn Irac, Mawritania, Oman, Sawdi Arabia, Senegal, Somalia, Swdan a Syria. Mae'r protestiadau wedi cynnwys gorymdeithiau, ralïau a streiciau ac mae'r protestwyr wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn aml.
Protestiadau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd protestiadau yn Tiwnisia yn Rhagfyr 2010 yn arwain i ddymchweliad yr arlywydd Zine el-Abidine Ben Ali ar 14 Ionawr 2011. Ymddiswyddodd Hosni Mubarak, arlywydd yr Aifft, ar 11 Chwefror 2011 ar ôl 18 dydd o brotestiadau yn y wlad honno.
Tua canol Chwefror cyhoeddodd Brenin Abdullah o Wlad Iorddonen enw prif weinidog newydd a chyhoeddodd Llywydd Iemen, Ali Abdullah Saleh, na fyddai'n dymuno tymor arall yn ei swydd yn 2013. Gwelwyd protestiadau drwy Libia lle galwyd am ymddiswyddiad y Llywydd Muammar al-Gaddafi. Cyhoeddodd Llywydd Swdan, Omar al-Bashir, na fyddai'n rhoi ei enw ymlaen yn yr etholiad nesaf yn 2015.