Neidio i'r cynnwys

Abdullah II, brenin Iorddonen

Oddi ar Wicipedia
Abdullah II, brenin Iorddonen
Ganwyd30 Ionawr 1962 Edit this on Wikidata
Amman Edit this on Wikidata
Man preswylRaghadan Palace Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, swyddog milwrol, teyrn Edit this on Wikidata
Swyddetifedd eglur, etifedd eglur, Custodian of the Holy Sites of Jerusalem, Brenin Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
TadHussein, brenin Iorddonen Edit this on Wikidata
MamPrincess Muna Al-Hussein Edit this on Wikidata
PriodY Frenhines Rania o'r Iorddonen Edit this on Wikidata
PlantHussein bin Abdullah, Tywysog Gwlad Iorddonen, Y Dywysoges Iman bint Abdullah, Y Dywysoges Salma bint Al Abdullah, Y Tywysog Hashem bin Al Abdullah Edit this on Wikidata
PerthnasauTalal, brenin Iorddonen, Mohammed bin Rashid Al Maktoum Edit this on Wikidata
LlinachHashimiaid Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.kingabdullah.jo Edit this on Wikidata
llofnod

Brenin Gwlad Iorddonen yw Abdullah II bin Al-Hussein (Arabeg: الملك عبد الله الثاني بن الحسين‎, al-Malik ʿAbdullāh aṯ-ṯānī bin al-Ḥusayn; ganwyd 30 Ionawr 1962). Daeth i'r orsedd ar 7 Chwefror 1999 wedi marwolaeth ei dad, y Brenin Hussein. Mae'n perthyn i'r teulu Hashemite, teulu sydd wedi llywodraethu Gwlad Iorddonen ers 1921, ac sy'n hanu o linach merch Muhammad, sef Fatimah.[1]

Ganed Abdullah yn Amman yn blentyn cyntaf i'r Brenin Hussein a'i ail wraig, y Dywysoges Muna a aned yn Chelmondiston, Suffolk, Lloegr. Fel mab hynaf y Brenin, roedd Abdullah yn etifedd amlwg nes i Hussein drosglwyddo'r teitl i'r tywysog Hassan, ewythr Abdullah, ym 1965. Dechreuodd Abdullah ei addysg yn Amman, gan barhau â'i addysg dramor. Dechreuodd ei yrfa filwrol yn 1980 fel swyddog hyfforddi yn Lluoedd Arfog yr Iorddonen, gan gymryd cyfrifoldeb dros Luoedd Arbennig y wlad yn 1994, a daeth yn uwchfrigadydd (major general) yn 1998. Ym 1993 priododd Rania Al-Yassin (o dras Balesteinaidd), ac mae ganddynt bedwar o blant: y Tywysog Hussein, y Dywysoges Iman, y Dywysoges Salma a'r Tywysog Hashem. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yn 1999, enwodd Abdullah yn etifedd y goron, a dilynodd Abdullah ei dad.[2][3] [4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Dyddiad geni: "Abdullah II". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Abdullah II . Ibn al-Husain". "Abdullah II bin Al-Hussein". "Abdullah II". "Abdullah II". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 981: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
  3. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 981: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
  4. Anrhydeddau: http://www.ceskatelevize.cz/ct24/svet/301202-kral-jordanska-dostal-nejvyssi-cesky-rad-nasleduje-bushe-ale-i-kaddafiho/. dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015. dyfyniad: Prezident České republiky Miloš Zeman při své návštěvě Jordánska udělil nejvyšší české vyznamenání, Řád bílého lva, tamnímu králi Abdalláhovi II.. http://zpravy.aktualne.cz/domaci/jordansky-kral-a-zeman-si-vymenili-nejvyssi-vyznamenani/r~c592bc7cb1ef11e486b9002590604f2e/. http://www.domradio.de/themen/soziales/2016-03-17/preis-des-westfaelischen-friedens. dyddiad cyrchiad: 17 Mawrth 2016. https://zoek.officielebekendmakingen.nl/stcrt-2020-39288.html. http://www.ordens.presidencia.pt/?idc=154. http://www.ordens.presidencia.pt/?idc=154. https://www.kongehuset.no/tildelinger.html?tid=28028&sek=27995&q=kong&type=27117&aarstall=. https://www.vanitatis.elconfidencial.com/casas-reales/2016-05-18/duelo-reinas-rania-jordania-matilde-belgica_1202279/. dyddiad cyrchiad: 2 Mawrth 2022. "Honorary Doctorates" (yn Saesneg). Sefydliad Perthynas Rhyngwladol y Wladwriaeth, Moscaw. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2019. Cyrchwyd 29 Mehefin 2019.