Chwyldro Iemen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y brotest ym Mhrifysgol Sana'a ble gwelwyd cannoedd yn Chwefror, miloedd ym Mawrth a channoedd o filoedd erbyn Ebrill 2011.

Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tiwnisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gannwys Protestiadau yn Iemen, 2011. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Iemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Iemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh.

Daeth 16,000 ynghyd yn Sana'a ar 27 Ionawr.[2] Ar yr ail o Chwefror cyhoeddodd y Prifweinidog na fyddai'n aefyll yn yr etholiad nesaf yn 2013 nac yn trosglwyddo'r awennau i'w fab. Ar 3 Chwefror daeth 20,000 ynghyd i wrthwynebu'r llywodraeth yn Sana'a ac eraill yn Aden.[3]

Ar y 18ed o Ebrill 2011 saethwyd 40 o bobl mewn protest heddychlon a saethwyd llawer a oedd yn cymryd rhan mewn protestiadau wedi hynny. Erbyn y 23 Ebrill roedd tri o aelodau seneddol wedi ymddiswyddo oherwydd y saethu. Gwelwyd lluniau ar Al Jazeera o filwyr y wlad yn cyhoeddi eu bont yn ochri gyda'r garfan wrth-lywodraeth. Drennydd, ar y 19eg o Ebrill, cyhoeddodd Ali Abdullah Saleh y byddai'n ymddiswyddo o fewn 30 diwrnod ac y byddai'n galw etholiad o fewn 60 diwrnod. Cafwyd cytundeb na fyddai'n cael ei erlyn am gyn-droseddau.

Ymddiswyddiad Saleh[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Ali Abdullah Saleh yn Arlywydd Iemen rhwng 1990 a 2012, ac yn Arlywydd Gogledd Iemen rhwng 1978 ac 1990.

Cynhaliwyd etholiad am arlywyddiaeth y wlad ar 21 Chwefror 2012 ac adroddwyd y pleidleisiodd 65% o'r etholwyr. Enillodd Abd Rabbuh Mansur al-Hadi 99.8% o'r bleidlais. Cymerodd y llw yn senedd y wlad ar 25 Chwefror 2012. Dychwelodd y cyn-Brifweinidog adref i fod yn rhan o'r seremoni hwn.[4] Ymddiswyddodd Saleh gan dderbyn yr arlywyddiaeth newydd. Roedd hyn yn garreg filltir bwysig ac yn dod a phennod i ben, ar ôl 33 mlynedd fel Arlywydd.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan saeneg Reuters; adalwyd 2011
  2. Gwefan Saesneg yr Irish Times; adalwyd 2011
  3. Gwefan saesneg y BBC; adalwyd 2011
  4. Kasinof, Laura (27 February 2012). "Yemen Swears In New President to the Sound of Applause, and Violence". The New York Times. Cyrchwyd 15 Awst 2012.
  5. Gwefan Google; adalwyd 28 Awst 2012