Crwban

Oddi ar Wicipedia

Ymlusgiad yw'r crwban (lluosog: crwbanod) sy'n perthyn i'r urdd a elwir yn Testudines. Ceir cragen gref sydd wedi'i chysylltu i ran uchaf (cefn) ei gorff ac sydd wedi datblygu dros miliynnau o flynyddoedd allan o esgyrn rhan o'i asennau. Pwrpas y gragen yw amddiffyn ei gorff meddal. Mae rhai rhywogaethau'n byw ar dir, megis y teulu crwbanod tir (tortoises), ac mae rhai'n byw mewn dŵr croyw, megis y terapiniaid. Mae môr-grwbanod yn byw mewn dŵr hallt. Anifail gwaed oer yw'r rhan fwyaf ohonynt.

Ceir ffosiliau sy'n mynd yn ôl cymaint â 250 miliwn o flynyddoedd,[2] sy'n gwneud y crwban yn un o'r ymlusgiaid hynaf ar y Ddaear yn hŷn na chrocodeil, nadroedd a madfallod. Mae rhai ohonynt yn brin iawn.

Fel gweddill y grŵp amniote (adar, deinosoriaid, ymlusgiaid a mamaliaid), maen nhw'n anadlu ocsigen o'r aer ac nid ydynt yn dodwy eu wyau mewn dŵr - er bod llawer iawn ohonynt yn byw ger y dŵr neu mewn dŵr. Mae'r crwbanod mwyaf i gyd yn byw mewn dŵr.

Anatomi[golygu | golygu cod]

Y crwban mwyaf yw'r môr-grwban lledraidd. Gall dyfu hyd at 200 cm, a gall bwyso hyd at 900 kg. Er hynny, mae'r crwban padloper brych ddim ond yn tyfu hyd at 8 cm o hyd, ac mae'n pwyso tua 140 gm.

Yr Enw[golygu | golygu cod]

Cafwyd trafodaeth ym Mwletin Llên Natur rhifyn 62 [1] i’r perwyl mai modernbeth cymharol yw dweud crwban i olygu tortoise a crwban y môr i olygu sea turtle. Pwy yng Nghymru welodd ‘tortoise’ dair canrif a mwy yn ôl? Daw‘r elfen crwb- o’r Saesneg crub = hunchback (gw. crwbi [Cym.]). Ymddangosodd cyfeiriad cyntaf at crwban i olygu anifail y môr (golygai hefyd chwilen Carabus gyda llaw) yn 1592 (a sea-crab or lobster) ac i olygu tortoise yn unig yn 1794. Felly, yn lled ddiweddar y cafodd y gair ei briodoli i tortoise.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Testudines", Integrated Taxonomic Information System.
  2. "Archelon-Enchanted Learning Software". Enchantedlearning.com. Cyrchwyd 2009-03-14.
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru