Cragen

Oddi ar Wicipedia
Casgliad o gregyn

Rhan allanol o gorff anifail yw cragen (lluosog: cregyn) sy'n bywyd yn y môr. Yn aml, gwelir llawer o gregyn gwag wedi'u gadael ar draethau, gan y llanw; mae'r rhain yn wag gan fod corff meddal yr anifail naill ai wedi cael ei fwyta gan anifail arall neu wedi hen bydru. Ceir math arall o gregyn, sef cregyn gastropodau fel y falwen, sy'n byw ar y tir. Mae'r erthygl hon yn ymwneud â chregyn morol yn unig.

Ysgerbwd allanol infertebrat (anifail heb asgwrn cefn) ydyw ac mae'r rhan fwyaf o'r cregyn a ganfyddir ar draethau'n perthyn i folysgiaid morol - yn rhanol gan fod y cregyn hyn yn galetach na mathau eraill. Ar wahân i gregyn molysgiaid ceir hefyd lawer o gregyn gwichiaid, crancod a braciopodau. Mae'r llyngyr cylchrannog o deulu'r Anelid yn ffurfio cragen siâp tiwb o galsiwm carbonad (sydd a fformiwla cemegol: CaCO3); mae'r tiwbiau hyn yn cael eu gludo i wrthrychau fel carreg.

Mae pobl wedi defnyddio cregyn ers miloedd o flynyddoedd ar gyfer gwahanol ddibenion, gan gynnwys tlysau neu lestri dal hylif.

Ceir cregyn mewn dŵr croyw yn ogystal â dŵr hallt e.e. ceir math o cregyn glesion sy'n byw mewn dŵr croyw, a does na ddim llawer o wahaniaeth rhwng y ddau fath o gragen.

Cysylltiadau â phobl[golygu | golygu cod]

  • Corn Galw

Corn Galw, neu cragen conch, gwrthrych cyffredin iawn o gwmpas tai.

Cragen conch, addurn cyffredin mewn gerddi yng Nghymru, weithiau yn cael eu defnyddio ar ffermydd i alw gweithwyr o’r caeau.

Ond beth yw ei hanes?. O ble y daeth? Pa bryd? Pwy a’u cludodd yma? Pam? - fel addyrn? fel modd i alw gweithwyr o’r caeau? Pwy sy’n gwybod? Pwy sy’n cofio? Oes yna fasnach iddynt o hyd? Oes gennych stori am un?

Mae’r llun[1] yn dangos Mrs Lewis, Nantgwynant yn chwythu cragen gonc, neu 'conch'. Daeth y llun i‘r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy garedigrwydd y diweddar Idris Evans o Nantgwynant mewn diwrnod agored yn Hafod y Llan[1]

Mae’n debyg bod y cregyn sydd wedi rhoi gwasanaeth fel CYRN GALW yn fwy tebygol o fod wedi ei taflud i’r bin sbwriel ar ôl i’r cyfnod galw gweithwyr o’r caeau fynd heibio gan eu bod yn ddi-bigyn ac felly yn anghyflawn a di-addurn?

“Mae gen i ddwy”, meddai Gwenda Williams, “sydd yn hen iawn, roeddynt yn eiddo i fy hen nain a oedd yn byw yn Nhrefor ond yn enedigol o Borthdinllaen. Clywais fy mam yn dweud eu bod wedi dod o Ynysoedd Môr y De pan oedd fy hen daid yn gapten llong”[2]

Mae un debyg, meddai Peter Cutts, sydd bellach yn Amgueddfa Caerfyrddin, sef Cragen Beca. Mae son amdani yn Nhalog yn y flwyddyn 1839, pan ffrwydrodd terfysgoedd Beca, pan ddaeth yr holl anniddigrwydd cymdeithasol a fu’n corddi’n hir a chythryblu’r werin o’r diwedd i’r wyneb. Y flwyddyn helbulus honno fe dorrodd yr argae. Ac mae’n ddiddorol nodi bod Cragen Beca yn cael ei defnyddio i alw’r terfysgwyr at ei gilydd; pob ffermwr, pob tyddynwr, pob gwas yn yr ardal i’r man cyfarfod yn y pentref. Gwyddys i sicrwydd i rai o gyfarfodydd Beca gael eu cyhoeddi o fewn muriau Bethania. Bu Talog un o’r canolfannau pwysicaf yn y Sir. Mae’n hawdd tybio bod sŵn y gragen i’w glywed yn fynych yn galw’r protestwyr i’r gad.
Mor hwyr â mis Rhagfyr 1910, defnyddiwyd y gragen i nodi dyfodiad ymgeisydd am etholaeth Gorllewin Sir Gâr am gyfarfod yn y capel yn ystod yr Etholiad Cyffredinol.[3]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Mae'r cofnod cynharaf o'r gair 'cragen' yn ymddangos yng ngwaith Iolo Goch[5]

Pam na bu farw, garw gaerug,
Gwyddelyn march cregyn Cryg?

a chanodd Ieuan ap Rhydderch amdani, tua'r un amser:

Torri ar ergyd idrwystr
Gragen deg ar osteg rwystr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]