Gastropod

Oddi ar Wicipedia
Gastropod
Amrediad amseryddol: Cambriaidd–Presennol[1]
Gastropod y tir, y falwen Rufeinig (Helix pomatia)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Mollusca
Dosbarth: Gastropoda
Cytrasau

Gweler y testun.

Dosbarth tacsonomegol, enfawr - a elwir yn gyffredin yn falwod a gwlithod yw'r gastropod, sy'n cynnwys y ffylwm Molwsg (Lladin: Mollusca). Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys miloedd o wahanol rywogaethau o falwod a gwlithod o wahanol faint, ac o wahanol gynefinoedd: môr a thir, dŵr croyw a dŵr hallt; malwod (cregyn), gwlithod, môr-falwod, brennig, cregyn Mair a gwichiaid moch. Yr hen enw i'r dosbarth hwn o rywogaethau oedd 'ungloriog' neu'r 'ungragennog' (Saesneg: univalves).

Y dosbarth Gastropoda yw'r ail ddosbarth mwyaf o rywogaethau, y mwyaf yw dosbarth y pryfed (neu Insecta)[2]. Ceir 611 teulu o gastropodau, gyda 202 ohonynt wedi darfod, gyda'u ffosiliau'n unig ar gael. Amcangyfrifir bod rhwng 60,000 a 80,000 o rywogaethau gwahanol o goastropodau.[3][4]

Gellir olrhain y gastropod, drwy ffosiliau, yn ôl i gyfres ola'r cyfnod daearegol Cambriaidd, sef 501 to 488.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnodau Neoproterosöig ac Ordofigaidd oedd y Cambriaidd. Dechreuodd tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd tua 488.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Landing, E.; Geyer, G.; Bartowski, K. E. (2002). "Latest Early Cambrian Small Shelly Fossils, Trilobites, and Hatch Hill Dysaerobic Interval on the Quebec Continental Slope". Journal of Paleontology 76 (2): 287–305. doi:10.1666/0022-3360(2002)076<0287:LECSSF>2.0.CO;2. JSTOR 1307143. https://archive.org/details/sim_journal-of-paleontology_2002-03_76_2/page/287..
  2. Linnaeus, 1758
  3. Strong, Ellen E.; Gargominy, Olivier; Ponder, Winston F.; Bouchet, Philippe (2007). "Global diversity of gastropods (Gastropoda; Mollusca) in freshwater". Hydrobiologia 595: 149. doi:10.1007/s10750-007-9012-6. Nodyn:Hdl.
  4. Britannica online: abundance of the Gastropoda