Iolo Goch

Oddi ar Wicipedia
Iolo Goch
Ganwyd1320 Edit this on Wikidata
Dyffryn Clwyd Edit this on Wikidata
Bu farw1398 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Iolo Goch (tua 13201398/1400) a ystyrir un o'r cywyddwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol.[1] Roedd yn gyfaill i'r bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Mae'n adnabyddus am ei ganu i'r Tywysog Owain Glyn Dŵr a'i ddisgrifiad o'i lys.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Iolo Goch yn nhregordd Lleweni, ym mhlwyf Llanefydd, Dyffryn Clwyd. Dyma ei ach yn ôl llawysgrif Peniarth 127 (c. 1510): Iolo Goch ab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cowryd ap Perfarch ab Iarddur ap Llywelyn ap Meuter Fawr ap Hedd ap Alunog o Uwch Aled. Yn ôl traddodiad enw ei wraig oedd Margred ferch Adda Fychan.[1]

Mae Araith Iolo Goch yn un o destunau mwyaf adnabyddus yr Areithiau Pros, ond mae'n ddiweddarach nag oes y bardd ei hun.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Gellid dosbarthu cerddi Iolo Goch yn gerddi mawl a marwnadau, canu serch, cerddi crefyddol a chanu dychan. Cywyddau ac englynion ydynt yn bennaf.

Cerddi mawl[golygu | golygu cod]

Gwlad Iolo Goch, darlun gan G. Howell-Baker yn ngyfres Ab Owen, Llanuwchllyn, 1915)

Yn ei ganu mawl mae gan Iolo gywyddau i Syr Hywel y Fwyall, Cwnstabl Castell Cricieth, y brenin Edward III o Loegr, meibion Tudur Fychan o Fôn, Syr Rhosier Mortimer, Ieuan Esgob Llanelwy, Dafydd ap Bleddyn (yntau'n esgob Llanelwy hefyd) ac i lys Hywel Cyffin, deon Llanelwy. Yn ogystal canodd dri chywydd arbennig i Owain Glyn Dŵr, un yn olrhain achau Owain, un arall yn fawl iddo fel arweinydd a'r llall yn moli llys y tywysog yn Sycharth (yn y 1390au neu'r 1380au) lle cawsai Iolo groeso cynnes ar bob ymweliad.[2]

Marwnadau[golygu | golygu cod]

Canodd Iolo farwnadau i Dudur o Fôn a'i feibion, Syr Rhys ap Gruffudd, ac Ithel ap Robert. Yn fwy arbennig, ceir ar glawr dair marwnad bwysig i'r beirdd Dafydd ap Gwilym, Llywelyn Goch ap Meurig Hen ac Ithel Ddu.[2]

Yn ei farwnad i Goronwy ap Tudur cofnododd Iolo Goch yr amgylchiadau a achosodd ei farwolaeth yn Swydd Caint hyd ei angladd ym Mhenmynydd, Môn, gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi eu lleoli a'u dyddio yn fanwl ond sydd eto yn herio hygrededd er gwaethaf y cadarnhad i rai digwyddiafau a geir o ffynonellau hanesyddol annibynnol. Dyma grynodeb o waith y Dr. Dafydd Johnston ar y pwnc[3] (fe gyhoeddwyd hwn yn wreiddiol fel cyfraniad i hanes yr hinsawdd yng Nghymru a Phrydain):

Ar yr 22ain Mawrth, ddiwedd y flwyddyn 1381 yn ôl cyfri'r hen galendr, bu i Goronwy ap Tudur, uchelwr o linach Tuduriaid Penmynydd, Môn, foddi "dan lifddyfredd" yng Nghaint. Cyfnod trychinebus ar unrhyw gyfrif a ddilynodd, a llawn arwyddocad i Iolo Goch a'r meddwl Canol Oesol. Iolo oedd y bardd a gyfansoddodd y cywyddau swmpus y mae'r sylwadau hyn wedi eu seilio arnynt. Soniodd am ddiffyg ar yr haul yn parhau am fis ym Môn dros y cyfnod. "Mae cwmwl fal mwg [llosgi] gwymon" a "clipsis fis ar Fôn" meddai. Gor-ddweud oedd "y mis" mae'n debyg - dyna oedd hyd arferol y galaru ar ôl marwolaeth. Dydd Mawrth y 1af Ebrill yn y mis a'r flwyddyn (CalendrJiwleaidd) ganlynol, a diwrnod cyn i gorff Goronwy gyrraedd man ei gladdu yn Llanfaes, bu storm - "Tymestl a ddoeth, neud Diwmawrth". Llanfaes wrth gwrs oedd man claddu traddodiadol Tywysogion Gwynedd ers amser ei sefydlu gan Lywelyn Fawr, ac roedd Tuduriaid Penmynydd yn ddisgynyddion i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn. Roedd y daith yn hir o Gaint i Fôn yr adeg honno - taith o 30 milltir y dydd yn ôl amcangyfrif yr Athro Dafydd Johnston, neu yn hytrach yn ôl ei raglen Google Maps "gan osgoi'r traffyrdd"! "A'i arwain ar elorwydd o Loegr i Fôn" meddai Iolo am hebrwng y corff yn ôl - taith dros dir felly, nid môrdaith.
Mae'r fath fanylder ynglŷn â dyddiadau marwolaeth yn dra phrin mewn barddoniaeth yr oes hon meddai Johnston; prinach fyth mae'n debyg yw cofnodion manwl daeargrynfeydd a stormydd. Yn fuan cyn angladd Goronwy, ar y 3 Ebrill, a thri diwrnod cyn Sul y Pasg, bu farw'r Archddeacon Ithel ap Robert, noddwr hael i'r bardd. Ychwanegodd ei farwolaeth ddyletswydd barddol arall ar Iolo, a phroffwydoliaeth gwae. I ddwysáu'r dychryn, am dri o'r gloch pry'nhawn y 21ain Fai, pedwar diwrnod cyn i Iolo gyflwyno ei gywydd i goffháu Ithel, ar y Sulgwyn mae'n debyg, cafwyd daeargryn o dan fôr y Sianel ger Caint (heb fod nepell wrth gwrs o fan marwolaeth Goronwy). Yn ddios, gwyddai Iolo am y ddaeargryn, a gwyddom hefyd iddi ddifrodi cadeirlan Caergaint. Yn ystod prawf Wycliffe am heresi a gynhelid ar y pryd, fe ddygodd y ddwy ochr y tirgryniad hwn fel tystiolaeth o blaid eu hachos hwy. Dywedodd Iolo fel y bu i "blanhigion pla" dorri'r ddaear "yr awr hon", a'i fod yn Hysbys ymhob llys a llan / Dorri'r ddaear yn deirran - pob llys a llan gan gynnwys Môn hyd yn oed?
Amcennir gan wybodusion Prifysgol Casnewydd, mai rhwng 5 a 6 nerth Richter oedd y cryndod. Y ddaeargryn fwyaf a gafwyd yn Mhrydain ers dechrau cofnodion gwyddonol oedd honno ar y Dogger Bank o dan Môr y Gogledd yn 1931 a fesurwyd yn 6.1 nerth Richter. Achosodd hon tsunami (cyn i'r gair dreiddio i'n geirfa pob dydd), sef llifogydd ar hyd yr arfordir cyfagos, a difrod i drefi ar hyd dwyrain Lloegr. Fe 'stumiwyd tŵr eglwys Filey, swydd Efrog gan y cryndod. Yn ôl Wikipedia, disodlwyd yn ei sgil pen cwyr y llofrydd ddoctor Crippen ym Madame Tussauds, Llundain - y man pellaf yr honnir i'r ddaeargryn hon gael ei theimlo. Cofnodwyd ddaeargryn Iolo hefyd mewn cerdd Saesneg: '
Pinacles, steples, to ground hit cast; and al was for warnyng to be ware
a chan Iolo i berwyl tebyg:
Siglo a wnâi'r groes eglwys..."
ac fel ag i’w dynnu sylw at y ffaith mai daeargryn tanddwr ydoedd
..Fal llong eang wrth angor, / Crin fydd yn crynu ar fôr.
Er i Iolo a llawer o'i gyfoeswyr ddeall mai "pellennog" (crwn) oedd y ddaear ac nid bwrdd gwastad, melltith gan ei dduwoedd oedd ei grymoedd.[4]
Corffddelw Goronwy ap Tudur a’i wraig Morfudd, Eglwys Penmynydd, Môn

Canu serch[golygu | golygu cod]

Cyfansoddodd Iolo Goch ddau gywydd serch. Yr enwocaf ohonyn nhw yw'r gerdd Chwarae Cnau I'm Llaw, sy'n portreadu'r bardd ei hun yn chwarae'n gellweirus â merch ifanc:

Y ferch a wisg yn sientli,
Main ei hael a mwyn yw hi.[2]

Canu dychan[golygu | golygu cod]

Mae Iolo'n adnabyddus hefyd am ei ganu dychan, yn arbennig y gyfres o gywyddau i fynachod, ei gyd-feirdd Hersdin Hogl a'r Gwyddelyn, a'r eglwyswr Madog ap Hywel.[2]

Cywydd y Llafurwr[golygu | golygu cod]

Dyma'r enwocaf o gerddi Iolo, mae'n debyg. Mae'n gerdd a ddyfynir yn aml am ei disgrifiadau bachog o ormes y cyfoethogion ar draul y tlodion, a gynrychiolir gan y Llafurwr, ac am ei naws genedlaetholgar.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Testunau[golygu | golygu cod]

  • D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Y golygiad safonol diweddaraf o waith y bardd, gyda rhagymadrodd a nodiadau.
  • Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350-1450 (Bangor, 1925; ail arg. Caerdydd, 1937)

O ddiddordeb hanesyddol yn unig erbyn hyn yw golygiad T. Mathews:

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • Dafydd Johnston, Iolo Goch (Caerdydd, 1989). Arolwg o waith Iolo yn y gyfres Llên y Llenor.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Rhagymadrodd.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988).
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 20
  4. Addasiad o erthygl gan Duncan Brown a ymddangosodd gyntaf yn Y Cymro