Henry Lewis

Oddi ar Wicipedia
Henry Lewis
Ganwyd21 Awst 1889 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1968 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethperson dysgedig, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Cymreig oedd Henry Lewis (21 Awst 188914 Ionawr 1968).

Ganed ef yn Ynystawe yn yr hen Sir Forgannwg. Graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, lle bu'n astudio dan Syr John Rhys. Bu'n athro ysgol yn Ystalyfera a Llanelli, yna yn y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wedi'r rhyfel, daeth yn is-ddarlithydd yn adran y Gymraeg yng Nghaerdydd, cyn cael cadair y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Abertawe yn 1921, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad yn 1954.

Bu'n olygydd Cyfres y Brifysgol a'r Werin am gyfnod, a chyfieithodd Brenin yr Ellyllon gan Gogol i'r gyfres.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Llawlyfr Llydaweg Canol (1922)
  • (gol.) Chwedleu Seith Doethon Rufein (1925)
  • (gol.) Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (1925)
  • Llawlyfr Cernyweg Canol (1928)
  • Mynegai i farddoniaeth y llawysgrifau (1928, gyda Elizabeth J. Louis Jones)
  • (gol.) Delw y Byd (1928, gyda Pol Diverres)
  • Datblygiad yr iaith Gymraeg (1931)
  • (gol.) Hen Gerddi Crefyddol (1931)
  • A Concise Comparative Celtic Grammar (1937, cyfieithiad o Vergleichende Grammatik der Keltischen Sprachen gan Holgar Pedersen
  • (gol.) Brut Dingestow (1942)
  • The Sentence in Welsh (1942)
  • (gol.) Hen gyflwynadau (1948)
  • Morgannwg Matthews Ewenni (1953)
  • (gol) argraffiad cyntaf cwmni Collins o'r Spurrell Welsh / English Dictionary (1960)
  • Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (1943, 1961)