Dafydd ap Bleddyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dafydd ap Bleddyn
Ganwyd 13G Edit this on Wikidata
Bu farw 1346 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth esgob Edit this on Wikidata
Swydd Esgob Llanelwy Edit this on Wikidata

Clerigwr Cymreig oedd Dafydd ap Bleddyn (bu farw ddiwedd y 1340au), a fu'n Esgob Llanelwy o 1314 hyd 1345.

Daeth Dafydd yn ganon Llanelwy ac yn 1314 olynodd Llywelyn ab Ynyr fel Esgob Llanelwy.[1]

Roedd Dafydd yn noddwr hael i'r beirdd ac ymddiddorai mewn hanes hefyd. Yn ei gyfnod ef y lluniwyd Llyfr Coch Asaph, llyfr sy'n croniclo hanes tybiedig yr esgobaeth o'i sefydlu, yn ôl traddodiad, gan Sant Cyndeyrn yn y 6g hyd gyfnod Dafydd ei hun. Mae'r llawysgrif wreiddiol ar goll heddiw ond cedwir pedwar copi anghyflawn a wnaed gan Robert Vaughan ac eraill.[2]

Cedwir awdl i Ddafydd ap Bleddyn gan Iolo Goch. Dyma'r gerdd gynharaf gan y bardd ar glawr, efallai. Ynddo mae Iolo yn cymharu Dafydd â noddwyr enwog y traddodiad Cymreig, yn cynnwys Rhydderch Hael a Mynyddog Eiddin. Yna mae'n clodfori'r esgob am ei ddysg a'i nawdd gan ei gymharu â'r Pab Grigor I ('Geirioel'). Dyma enghraifft:

Da fu heb gelu Coel Godebawg,
Da Eirioel enau, eiriau oriawg,
Ac ys gwell gâr pell, gŵr pwyllawg — balchryw,
Ni bu ei gyfryw, llyw galluawg;
Os rhaid mynegi pwy rhi yrhawg,
Dafydd ap Bleddyn yw'r dyn doniawg.[3]

Bu farw Dafydd ar ddiwedd y 1340au neu'n fuan yn y 1350au ar ôl gwasanaethu fel esgob tan 1345. Cafodd ei olynu gan Ieuan Trefor I.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1987; arg. newydd 1991), tud. 375.
  2. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. 'Llanelwy'.
  3. D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVIII.12-17.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.