Calendr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Revolution kalendar.jpg
Data cyffredinol
Mathcronoleg, system Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscalendar date Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Calendr yn system o fesur amser gyda'r uned lleiaf yn un diwrnod, neu gylchdro ein planed.

Yng Nghymru a thros y rhan fwyaf o'r byd fe ddefnyddir y Calendr Gregoraidd sydd wedi'i seilio ar symudiadau'r haul ac sy'n rhannu'r flwyddyn yn 365 neu'n 366 o ddyddiau. Mae 12 mis i bob blwyddyn, a rhwng 28 a 31 o ddyddiau ym mhob mis. Mae wythnos yn 7 diwrnod, gyda phedwar neu fwy o wythnosau mewn mis.

Sail y Calendr Gregoraidd yw'r Calendr Iwliaidd a sefydlwyd yn nheyrnasiad Iwl Cesar.

Mae gan y Calendr Gregoraidd wreiddiau Cristnogol. Cyfeirir at flynyddoedd 'Cyn Crist' (CC) ac 'Oed Crist' (OC). Mae rhai grwpiau - yn arbennig rhai o ddiwyliannau anghristnogol - yn cyfeirio ato fel Calendr yr Oes Cyffredin ac yn defnyddio CE (o'r Saesneg, "Common Era") yn lle OC a BCE (o'r Saesneg, "Before Common Era") yn lle CC. Ffurfiwyd y Calendr Gregoraidd er mwyn cysoni union ddyddiad y Pasg.

Mae yna galendrau eraill sydd mewn defnydd eang, yn cynnwys Y Calendr Iddewig, Calendr Celtaidd a'r Calendr Mwslemaidd. Mae yna hefyd galendrau at ddefnyddiau arbennig, fel crefydd neu'r byd ariannol. Seiliwyd rhai calendrau ar symudiadau'r lleuad.

Defnyddir y gair calendr hefyd i ddynodi gwrthrych sy'n dangos manylion y calendr - e.e. calendr wal traddodiadol wedi ei wneud o bapur.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am calendr
yn Wiciadur.