Edward Sirc

Oddi ar Wicipedia
Edward Sirc
Ganwyd1490s Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Cerddor a bardd oedd Edward Sirc (fl. hanner cyntaf yr 16g). Roedd yn daid i'r bardd Edward Maelor.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Medrai Edward olrhain ei ach yn ôl i'r tywysog Madog ap Maredudd, ŵyr Bleddyn ap Cynfyn, brenin Powys a Gwynedd. Roedd yn frodor o ardal Maelor yn yr hen Sir Ddinbych (sir Wrecsam heddiw) ac efallai'n byw yn nhref Wrecsam ei hun.

Graddiodd Edward Sirc yn bencerdd telyn yn Eisteddfod Caerwys 1523, y gyntaf o Eisteddfodau Caerwys. Cofnodir hefyd ei fod yn grythor. Roedd hefyd yn fardd a chedwir ar glawr un cywydd a phedwar englyn ganddo.

Roedd Edward Sirc yn noddwr beirdd hefyd. Ceir cywydd a briodolir i Syr Dafydd Trefor yn gofyn telyn iddo.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Huw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor (Caerdydd, 1990), tt. xx-xxii.