Prydydd Breuan

Oddi ar Wicipedia
Prydydd Breuan
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a ganai yn ne-orllewin Cymru oedd Prydydd Breuan (fl. tua chanol y 14g). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Sir Benfro ond roedd ganddo gysylltiadau cryf â Sir Gaerfyrddin hefyd.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddys am y bardd ar wahân i'r hyn a awgrymir gan ei enw a thystiolaeth fewnol y pedair cerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys mai at faenor Dyffryn Breuan yng nghwmwd Emlyn Is Cuch, gogledd Sir Benfro, y cyfeirir yr enw lle Breuan yn ei enw. Posiblrwydd arall, llai tebygol, yw lle o'r enw Trefreuan yn Sir Gâr. Ceir sawl cyfeiriad at seintiau a gysylltir â gogledd Penfro a Sir Gaerfyrddin yn ei waith yn ogystal.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Cedwir pedair cerdd yn unig o waith y bardd. Mae un ohonynt yn fawl traddodiadol i Faredudd o Ynys Derllys (maenor yng nghwmwd Derllys, Cantref Gwarthaf, Sir Gaerfyrddin, a orweddai fymryn i'r de o dref Caerfyrddin).[1]

Mae'r tri destun arall yn gerddi dychan hynod. Ceir awdl ddychan i un Tarre, englyn proest dychanol i delynor o'r enw Coch y Delyn, a cherdd filain a phersonol iawn ei naws i ferch anhysbys o'r enw Siwan Morgan o Aberteifi. Mae'r gerdd olaf ymhlith y cerddi mwyaf syfrdanol o fras a masweddus o blith holl gerddi dychan Beirdd yr Uchelwyr sy'n darlunio Siwan fel putain flonegog aflan, dwyllodrus, sydd wedi cael "saith cant cnych" neu ragor.[1]

Cedwir y testunau cynharaf i gyd yn adran farddoniaeth Llyfr Coch Hergest (tua 1400).[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). Rhagymadrodd.