Neidio i'r cynnwys

Emlyn Is Cuch

Oddi ar Wicipedia
Emlyn Is Cuch
Mathcwmwd, cantref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEmlyn, Teyrnas Deheubarth, Teyrnas Dyfed Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Cuch Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEmlyn Uwch Cuch, Is Coed, Elfed (cwmwd), Cemais Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.99°N 4.56°W Edit this on Wikidata
Map

Un o ddau gwmwd yng nghantref Emlyn, yn nheyrnas Dyfed, oedd Emlyn Is Cuch. (Y llall oedd Emlyn Uwch Cuch.) Roedd yn gwmwd o fryniau isel, coedwigoedd a chymoedd. Heddiw mae ei diriogaeth yn gorwedd yn Sir Benfro.

Cwmwd Emlyn Is Cuch yng nghantref Emlyn (gwyrdd tywyll), i'r gorllewin o gwmwd Emlyn Uwch Cuch

Roedd afon Cuch yn dynodi'r ffin rhwng Emlyn Is Cuch a'r ail gwmwd, Emlyn Uwch Cuch. I'r gogledd ffiniai Emlyn Is Cuch â chwmwd Is Coed, cantref Is Aeron, gydag afon Teifi yn ffin naturiol rhyngddynt. I'r de ffiniai â chwmwd Elfed, cantref Gwarthaf, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.

Ni wyddys nemor ddim am hanes cynnar y cwmwd. Ar y dechrau bu'n rhan o deyrnas Dyfed ac wedyn Deheubarth. Fe'i meddianwyd gan y Normaniaid yn y 12g a daeth yn rhan o diriogaeth Normanaidd y De, a oedd yn estyniad o'r Mers. Codwyd Castell Cilgerran gan y Normaniaid yng ngogledd y cwmwd i warchod afon Teifi. Roedd y cwmwd yn cynnwys y plwyfi Bridell, Cilgerran, Clydau, Capel Colman, Llanfihangel Penbedw, Manordeifi a Penrydd, a rhan orllewinol Cilrhedyn[1]

Yn ddiweddarach creuwyd "cantref" (hundred) Cilgerran dan y Deddfau Uno yn 1536, seiliedig ar diriogaeth yr hen gantref. Fe'i rheolwyd o fwrdeistref ganoloesol Cilgerran.

Lleolir golygfa agoriadol Pedair Cainc y Mabinogi yn y cwmwd. Roedd llys Pwyll Pendefig Dyfed yn Arberth, cantref Penfro. Un diwrnod aeth allan i hela yng Nglyn Cuch lle cyfarfu Arawn brenin Annwn a chychwyn cylch chwedlau'r Pedair Cainc.

Mae'n debygol fod y bardd canoloesol Prydydd Breuan (fl. ganol y 14g) yn frodor o'r cwmwd hwn.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units (Gwasg Prifysgol Cymru, 1969), tud. 66
  2. Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest, gol. Huw Meirion Edwards (Aberystwyth, 2000)
  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)