Ieuan Llwyd ab y Gargam

Oddi ar Wicipedia
Ieuan Llwyd ab y Gargam
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1400 Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Ieuan Llwyd ab y Gargam (bl. tua 1400).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddom am y bardd ac rydym yn dibynnu yn bennaf ar dystiolaeth ei gerdd i Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan am ein gwybodaeth. Dyma'r unig gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi. Cedwir y gerdd mewn rhan o Lyfr Coch Hergest a ychwanegywd ato tua'r flwyddyn 1400 pan fu ym meddiant Hopcyn. Rhaid felly ei fod yn ei flodau cyn hynny. Mae llinell yn y gerdd honno yn awgrymu ei fod yn fardd o Wynedd. Ceir dogfen sy'n rhestru'r gwrthryfelwyr o Ynys Môn a ymladdodd dros Owain Glyn Dŵr ac a ildiodd yn ddiweddarach sy'n cynnwys un jem lloyd brydydd ('Ieuan Llwyd Brydydd') ac mae'n bosibl mai Ieuan Llwyd ab y Gargam a olygir.[1]

Cerdd[golygu | golygu cod]

Mae cerdd Ieuan yn un o bum awdl foliant i Hopcyn ap Tomas sydd wedi goroesi; ceir awdlau eraill iddo gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen, Dafydd y Coed, Madog Dwygraig, a Meurig ab Iorwerth.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0-947531-71-8

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). Rhagymadrodd.