Bedo Hafesb

Oddi ar Wicipedia
Bedo Hafesb
Ganwyd1568 Edit this on Wikidata
Powys Edit this on Wikidata
Bu farw1585 Edit this on Wikidata
Man preswylAberhafesb Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1568 Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Bedo Hafesb (bl. 1540au - 1585). Roedd yn frodor o ardal Maldwyn, Powys.[1] Mae ei enw barddol yn awgrymu cysylltiad gyda phlwyf Aberhafesb. Ffurf annwyl o 'ewyrth' yw 'Bedo' sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw (2014) mewn rhai ardaloedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Daliai swydd sersiant yn Y Drenewydd, ond ychydig a wyddys amdano fel arall. Canai i uchelwyr Powys. Ceir sawl cywydd ganddo i foneddigion o'r Drenewydd a'r cylch. Canodd rai cywyddau dychan hefyd ac mae ar glawr cywyddau ymryson barddol rhyngddo ag Ieuan Tew Ieuanc.[1]

Graddiodd Bedo yn ddisgybl pencerddaidd yn Eisteddfod Caerwys 1567 (Ail Eisteddfod Caerwys). Ei gyd-ddisgyblion pencerddaidd yn yr Eisteddfod honno oedd Siôn Tudur, Lewis Menai, Huw Llŷn, Wiliam Cynwal, Siôn Phylip a Huw Cornwy.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).