Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Caerwys 1567

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Caerwys 1567
Enghraifft o:eisteddfod Edit this on Wikidata
Dyddiad1567 Edit this on Wikidata
LleoliadCaerwys Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cynhaliwyd Eisteddfod Caerwys 1567 yng Nghaerwys, Sir y Fflint. Dyma'r ail o Eisteddfodau Caerwys yn dilyn y gyntaf, sef Eisteddfod Caerwys 1523. Bwriad y ddwy oedd pennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac rhoi trefn ar feirdd a cherddorion Cymru trwy sustem o drwyddedau. Credir i'r eisteddfod gael ei chynnal mewn tŷ yn perthyn i deulu Mostyn, noddwyr y ddwy eisteddfod yn ôl pob tebyg, efallai ar y sgwâr yng nghanol Caerwys a adnabyddir fel Sgwâr Mostyn hyd heddiw.[1]

Un o'r rhesymau dros gynnal yr eisteddfod hon yn 1567 oedd dathlu pedwar can mlwyddiant Eisteddfod Aberteifi. Eisteddfod ar gyfer beirdd a cherddorion gogledd Cymru, sef 'Talaith Aberffraw', oedd eisteddfod 1567.

Graddedigion

[golygu | golygu cod]

Nid yw pob llawysgrif sy'n cofnodi'r graddedigion hyn yn gwbl gytûn ond dyma'r rhestr a dderbynnir fel rheol.[2][3] Ni nodir yma y cerddorion - sef y telynorion a'r crythorion - yn y dosbarthiadau is.

Cerdd Dafod

[golygu | golygu cod]
Penceirddiaid
Disgyblion pencerddaidd
Disgyblion disgyblaidd
Disgyblion Ysbas

Telynorion

[golygu | golygu cod]
Penceirddiaid Cerdd Dant
  • Siôn ap Rhys
  • Wiliam Penllyn
  • Hwlcyn Llwyd
Disgyblion penceirddiaid
  • Thomas Anwyl
  • Dafydd Llwyd ap Siôn ap Rhys
  • Edward ab Ifan
  • Robert ap Hywel Llanfor
  • Wmffre Goch
Disgyblion disgyblaidd
  • Rhisiard Glyn
  • Rhobert Llwyd
  • Ieuan Penllyn
  • Lewis Llanfor

Crythorion

[golygu | golygu cod]
Dosbarth Cyntaf
  • Siamas Eutyn
  • Ieuan Penmon
Ail Ddosbarth
  • Rhobert ap Rhys Gutyn
  • Tomas Môn
  • Siôn Ednyfed
  • Tomas Grythor
Trydydd Ddosbarth
  • Siôn Ddu Grythor

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys, tud. 52.
  2. Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys, tt. 96-98.
  3. Meurig Idris, Y Brython. Y Gyfrol Gyntaf a'r Ail (Tremadog, 1901), tud. 148.