Huw Ceiriog

Oddi ar Wicipedia
Huw Ceiriog
Ganwyd1540s Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1560 Edit this on Wikidata

Bardd o'r hen Sir Ddinbych oedd Huw Ceiriog, sef Hywel Ceiriog (bl. tua 1560 - 1600).

Bywyd a cherddi[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddys amdano. Ymddengys ei fod yn frodor o Lyn Ceiriog yn yr hen Sir Ddinbych (ond rhan o sir Wrecsam heddiw). Graddiodd yn Eisteddfod Caerwys 1567, yr ail o Eisteddfodau Caerwys. Roedd y beirdd Edward Maelor a Wiliam Llŷn yn ei adnabod.[1]

Mae 15 o gerddi Huw Ceiriog ar glawr, yn gywyddau ac englynion i bobl leol a gwrthrychau fel merched, yr haf ac Eisteddfod Caerwys.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Huw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor (Caerdydd, 1990).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Huw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor (Caerdydd, 1990). Rhagymadrodd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]



Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.