Lewys Morgannwg

Oddi ar Wicipedia
Lewys Morgannwg
GanwydTir Iarll, Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw1565 Edit this on Wikidata
Man preswylLlanilltud Fawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1520 Edit this on Wikidata
TadRhisiart ap Rhys Edit this on Wikidata

Lewys Morgannwg oedd enw barddol y bardd Cymraeg proffesiynol Llywelyn ap Rhisiart, (fl. 1520-1565). Roedd yn ‘Bencerdd y Tair Talaith,’ ac yn un o feirdd mwyaf y 16g. Canai Lewys yn nhai Syr William Griffith o Benrhyn a noddwyr eraill. Roedd hefyd yn athro barddol; un o'i ddisgyblion mwyaf blaengar oedd Gruffudd Hiraethog.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Lewys Morgannwg yn frodor o Dir Iarll ym Morgannwg. Mae'n bosibl fod ganddo dŷ yn Llanilltud Fawr. Roedd ei dad Rhisiart ap Rhys yn fardd proffesiynol hefyd, ac mae'n debyg iddo gael ei addysg barddol gynnar ganddo. Yn ddiweddarach cafodd ei hyfforddi gan Tudur Aled, bardd mwyaf yr oes. Cafodd nawdd gan Syr Edward Stradling.[1]

Treuliodd Lewys ran helaeth ei oes yn clera ledled Cymru. Cafodd ei wneud yn 'Bencerdd y Tair Talaith', pennaeth Cyfundrefn y Beirdd (1530-1560). Mae dros 100 o'i gerddi yn y llawysgrifau.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Cynfael Lake ac Ann Parry Owen (gol.) Gwaith Lewys Morgannwg (Aberystwyth, 2005). Rhagymadrodd.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]



Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.