Llanilltud Fawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanilltud Fawr
Llantwit Major, East Street.jpg
Math administrative territorial entity of the United Kingdom, Tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4062°N 3.475°W Edit this on Wikidata
Cod OS SS975685 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jane Hutt (Llafur)
AS/au Alun Cairns (Ceidwadwr)

Tref a chymuned ym Mro Morgannwg, Cymru yw Llanilltud Fawr (Saesneg: Llantwit Major). (Cyfeirnod OS: SS9768).

Ceir olion hen fila Rhufeinig tua 1 filltir o'r dref.

Mae hen eglwys Sant Illtud yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog (clas) a sefydlwyd yno gan y sant yn y 6g. Daeth yn ganolfan dysg bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd fel Hywel ap Rhys, brenin Glywysing (m. 886), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan y Llychlynwyr yn 988. Daeth yr eglwys yn eiddo Abaty Tewkesbury tua 1130 ar ôl i'r Normaniaid orsegyn teyrnas Morgannwg.

Mae'n bosibl fod y bardd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565) wedi byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor o Dir Iarll. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.

Yn y flwyddyn 1100 yr ymddengys y gair yn gyntaf yn ysgrifenedig, "Llan Iltut", sy'n dangos yn amlwg mai "Illtud" yw tarddiad y gair, nid "twit" (Llantwit Major ydy'r gair yn Saesneg).

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Diywlliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y dref glwb pêl-droed sy'n chwarae yn uchel lefelau y gêm yng Nghymru. Bu C.P.D. Llanilltud Fawr chwarae yn nhymor agoriadol cynghrair Cymru South, sef ail lefel system byramid pêl-droed yng Nghymru.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanilltud Fawr (pob oed) (9,486)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanilltud Fawr) (882)
  
9.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanilltud Fawr) (5902)
  
62.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanilltud Fawr) (1,401)
  
34.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013