Aberogwr
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.464°N 3.635°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref glan-môr ar arfordir Bro Morgannwg, Cymru, yw Aberogwr (Saesneg: Ogmore-by-Sea). Gorwedd tua 3 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr ger aber Afon Ogwr ym Môr Hafren.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[1][2]
Yr arfordir[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r traeth, sy'n dywodlyd pan fo'r llanw allan, yn cynnig golygfa dros Graig y Sger allan yn y môr ac i arfordir Dyfnaint a Gwlad yr Haf ar dywydd braf. Ar ochr arall yr aber gellir gweld tywynod Merthyr Mawr. Mae'r arfordir creigiog yn atynnu dringwyr a cheir nifer o ffosilau yn y graig.
Bu'r arfordir hwn yn ddrwgenwog am longdrylliadau yn y gorffennol. Aeth nifer o longau i ddinistr ar Graig y Sger, crib isel o gerrig ysgythrog a orchuddir gan y môr pan fo'r llanw i mewn. Ar un adeg bu Aberogwr yn un o'r llefydd yng Nghymru lle arferai rhai o'r trigolion gamarwain llongau trwy chwifio llusernau a'u harwain felly i longdryllio ar y cregiau er mwyn eu hysbeilio.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Trefi
Y Barri ·
Y Bont-faen ·
Llanilltud Fawr ·
Penarth
Pentrefi
Aberogwr ·
Aberddawan ·
Aberthin ·
City ·
Corntwn ·
Clawdd Coch ·
Dinas Powys ·
Eglwys Fair y Mynydd ·
Ewenni ·
Ffont-y-gari ·
Gwenfô ·
Larnog ·
Llanbedr-y-fro ·
Llancarfan ·
Llancatal ·
Llandochau ·
Llandochau Fach ·
Llandŵ ·
Llanddunwyd ·
Llan-faes ·
Llanfair ·
Llanfihangel-y-pwll ·
Llanfleiddan ·
Llangan ·
Llansanwyr ·
Llwyneliddon ·
Llyswyrny ·
Marcroes ·
Merthyr Dyfan ·
Ogwr ·
Pendeulwyn ·
Pen-llin ·
Pennon ·
Pen-marc ·
Y Rhws ·
Sain Dunwyd ·
Saint Andras ·
Sain Nicolas ·
Sain Siorys ·
Sain Tathan ·
Saint-y-brid ·
Y Sili ·
Silstwn ·
Southerndown ·
Tair Onnen ·
Trebefered ·
Trefflemin ·
Tregatwg ·
Tregolwyn ·
Tresimwn ·
Y Wig ·
Ystradowen