Llanfleiddan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanfleiddan
Llanblethian near Cowbridge - geograph.org.uk - 932249.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Bro Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.46°N 3.46°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jane Hutt (Llafur)
AS/au Alun Cairns (Ceidwadwr)

Pentref yng nghymuned Y Bont-faen a Llanfleiddan yng nghanol Bro Morgannwg yw Llanfleiddan (llurguniad Saesneg: Llanblethian). Gorwedd fymryn i'r de-ddwyrain o'r Bont-faen ar lan Afon Ddawan.

Mewn dogfennau hanesyddol fe'i gelwir weithiau yn Llanfleiddan Fawr i wahaniaethu rhyngddo a Llanfleiddan Fawr (enw amgen ar bentref Llwyneliddon). Roedd yr eglwys yn gysegredig i Sant Bleiddan (amrywiad, Bleiddian) yn wreiddiol, ond yn y cyfnod Normanaidd fe ailgysegrwyd i Sant Ioan Fedyddiwr. Roedd yr eglwys yn ganolfan eglwysig leol o bwys yn y rhan yma o'r Fro, gyda chapeli yn perthyn iddo yn Y Bont Faen, Llansanwyr a Llanddunwyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[1][2]


Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
CymruBroMorgannwg.png Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.