Neidio i'r cynnwys

Clawdd-coch

Oddi ar Wicipedia
Clawdd-coch
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.49°N 3.36°W Edit this on Wikidata
Cod OSST055776 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUKanishka Narayan (Llafur)
Map

Pentrefan yng nghymuned Pendeulwyn, Bro Morgannwg, yw Clawdd-coch[1][2] (hefyd Clawdd Coch neu Clawddcoch). Mae'n gorwedd i'r gogledd-ddwyrain o bentrefan Tredodridge. Mae wedi'i leoli wrth ymyl Clwb Golff Bro Morgannwg a Chastell Hensol.

Mae Clawdd-coch wedi'i ddogfennu fel lle efo peth bwysigrwydd fel anheddiad Rhufeinig a chredir mai hwn yw lle gorffwys olaf Ostorius.[3][4] Adeiladwyd un o'r ffyrdd sy'n arwain i'r pentref, a elwir yn Via Media, gan y Rhufeiniaid.[3] Bu gwaith toddi plwm a chopr yng nghyffiniau annedd a elwid yn "Dol-y-felin-blwm".[3]

Yng nghanol y 19g, mae'n hysbys bod y pentrefan yn eiddo i Mr Asterley a oedd yn ffermio'r tir yno.[4] Mae'n debyg ei fod yn byw yn yr hyn sy'n cael ei alw bellach Gwesty Clawdd Coch, ffermdy hir a adeiladwyd yn y 1650au. Roedd Ivor Novello yn hoff iawn o'r pentrefan a fyddai'n aml yn treulio penwythnosau yn ymlacio yno, i geisio cael ysbrydoliaeth.[5] Fe'i hadnewyddwyd ym 1988.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 19 Ebrill 2023
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 20 Ebrill 2023
  3. 1 2 3 Collections historical and archeological relating to montgomeryshire and its borders. Llundain. 1884. tt. 37–48.
  4. 1 2 Cambrian Archaeological Association (1851). Archaeologia cambrensis. W. Pickering. t. 144.
  5. ↑ "Clawdd Coch Guest House - A History". Clawdd Coch guest house. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd 2019-03-08.