Saint Andras

Oddi ar Wicipedia
Saint Andras
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4356°N 3.2406°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Pentref a phlwyf yn rhan ddwyreiniol Bro Morgannwg, de Cymru, yw Saint Andras (weithiau Sant Andras, Saesneg: St. Andrew's Major). Mae'n gorwedd rhwng Y Barri a Chaerdydd.

Mae gan y pentref eglwys a godwyd dros 600 mlynedd yn ôl, tafarn ac ysgol gynradd. Cysegrir yr eglwys i Sant Andras. Rhed ffrwd Dinas Powys trwy'r plwyf.

Eglwys Saint Andras

Ar lawr capel yr eglwys ceir beddfaen sy'n dwyn arysgrif er cof am ŵr a gwraig hirhoedlog iawn:

Here lyeth the body of John Gibbon James, buried the 14 of August, 1601. And Margaret Mathew, his wife, buried the 8 of January, 1631. He aged ninety-nine, she aged one hundred and twenty-four.

Priododd y cyflwynwyr teledu Cymreig Rhodri Owen a Lucy Cohen yn yr eglwys yn 2004.