Pennon
| Math | pentrefan |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bro Morgannwg |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.416091°N 3.362663°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y DU | Kanishka Narayan (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan ym mhlwyf Llancarfan, ger Llancarfan ym Mro Morgannwg, De Cymru, yw Pennon[1] (gwelir y ffurf Pen-onn weithiau, ond nid coed onn sydd yn yr elfen olaf). Mae'n bosibl mai cyfeiriad at fam Dei (Non) yw elfen olaf yr enw. Gorwedd rhwng Llancarfan i'r gogledd a'r Rhws i'r de, tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Barri.
Ganwyd yr hynafiaethydd, y bardd a'r ffugiwr llenyddol Iolo Morganwg (Edward Williams) yn y pentref yng ngwanwyn 1747 (1746 yn ôl yr hen galendr), ond symudodd ei rieni i fyw yn Nhrefflemin o fewn ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny (mae'r union ddyddiad yn ansicr).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 4 Mawrth 2025
Trefi
Y Barri · Y Bont-faen · Llanilltud Fawr · Penarth
Pentrefi
Aberogwr · Aberddawan · Aberthin · City · Clawdd-coch · Corntwn · Dinas Powys · Eglwys Fair y Mynydd · Ewenni · Ffontygari · Gwenfô · Larnog · Llanbedr-y-fro · Llancarfan · Llancatal · Llandochau · Llandochau Fach · Llandŵ · Llanddunwyd · Llan-faes · Llanfair · Llanfihangel-y-pwll · Llanfleiddan · Llangan · Llansanwyr · Llwyneliddon · Llyswyrny · Marcroes · Merthyr Dyfan · Ogwr · Pendeulwyn · Pen-llin · Pennon · Pen-marc · Y Rhws · Sain Dunwyd · Saint Andras · Sain Nicolas · Sain Siorys · Sain Tathan · Saint-y-brid · Sili · Silstwn · Southerndown · Trebefered · Trefflemin · Tregatwg · Tregolwyn · Tresimwn · Y Wig · Ystradowen
