Neidio i'r cynnwys

Sain Nicolas

Oddi ar Wicipedia
Sain Nicolas
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSain Nicolas a Thresimwn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4619°N 3.3039°W Edit this on Wikidata
Cod OSST095745 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pentref yng nghymuned Sain Nicolas a Thresimwn, Bro Morgannwg, de Cymru, yw Sain Nicolas (Saesneg: St Nicholas). Mae'n gorwedd ar yr A48 rhwng Y Bont-faen i'r gorllewin a dinas Caerdydd i'r dwyrain.

I'r de o'r pentref, i gyfeiriad Llwyneliddon, ceir safle siambr gladdu Neolithig Tinkinswood, un o'r enghreifftiau gorau o'i fath yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]

Castell Cythrel

[golygu | golygu cod]

Tua kilometr i'r gorllewin o'r pentref saif hen domen mwnt a beili Castell Cythrel.

Bythynnod traddodiadol yn Sain Nicolas

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.