Neidio i'r cynnwys

Alun Cairns

Oddi ar Wicipedia
Alun Cairns
Ganwyd30 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, blogiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol 1af Cymru, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Parliamentary Under-Secretary of State for Wales, Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EM Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.aluncairns.com/ Edit this on Wikidata


Aelod o'r Blaid Geidwadol, a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw Alun Hugh Cairns (ganed 30 Gorffennaf 1970). Cynrychiolodd Ranbarth Gorllewin De Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2011. Roedd yn Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg yn 2010 a 2024.[1]

Cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 19 Mawrth 2016 ac ymddiswyddodd ar 6 Tachwedd 2019 yn dilyn ffrae am ei gyn-ymgynghorydd oedd wedi dymchwel achos llys.

Magwraeth a choleg

[golygu | golygu cod]

Magwyd ef yng Nghlydach, Abertawe, a mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Enillodd radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.[2] Wedi graddio ymunodd gyda Banc Lloyds am gyfnod.

San Steffan

[golygu | golygu cod]

Safodd yn aflwyddiannus ar ran y Blaid Geidwadol yng Ngŵyr yn 1997 ac eilwaith ym Mro Morgannwg yn 2015 ac eto yn 2007. Fe'i etholwyd yn 2000 fel yr aelod dros Fro Morgannwg gyda mwyafrif o 4,307 dros Lafur. Collodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 2024.

Daeth yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 19 Mawrth 2016 gan wasanaethu o dan Brif Weinidogion Cameron, Mai a Johnson yn dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Ymddiswyddiad

[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2019, roedd yn y newyddion oherwydd ei gefnogaeth i'w gyn-ymgynghorydd Ross England.[3] Cyhuddwyd England gan farnwr o danseilio a dymchwel achos llys yn ymwneud â threisio. Er hynny, cefnogodd England fel ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol ar gyfer y Cynulliad. Roedd y dioddefwr yn yr achos o drais yn arfer gweithio yn swyddfa etholaethol Cairns, a galwodd arno i ymddiswyddo. Gwadodd Mr Cairns ei fod yn gwybod am ran Ross England yn yr achos ond daeth yn amlwg fod Cairns wedi cael llythyr am yr achos yn Awst 2018.[4]

Daeth pwysau gan y cyhoedd a gwleidyddion eraill iddo ymddiswyddo yn arwain at Etholiad Cyffredinol 2019. Toc wedi hanner dydd ar 6 Tachwedd, fe ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Gwladol.[5]

Cynulliad Cenedlaethol

[golygu | golygu cod]
  • safodd yn llwyddiannus yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999 gan gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr[6],
  • bu hefyd yn llwyddiannus ar Restr Rhanbarth Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, gan gynrychioli Gorllewin De Cymru gyda Peter Black a Dr. Dai Lloyd.
  • Fe'i ail-etholwyd i'r sedd yn 2003 ac yn 2007 gan gael ei benodi'n llefarydd ei blaid dros datblygiad diwydiannol a chludiant am wyth mlynedd.

Ar 14 Mehefin 2008 ymddiswyddodd o Gabined yr wrthblaid wedi iddo wneud sylwadau dadleuol ar Radio Cymru ond ail-gymrodd ei le yn Hydref y flwyddyn honno, yn dilyn ymchwiliad.[7] Gwnaed y sylwadau ar raglen wythnosol Dau o'r Bae, pan ymddiheurodd am alw Eidalwyr yn greasy wops.[8] Ymddiswyddodd o'r Cabined yn dilyn y rhaglen.[9][10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ysgrifennydd Cymru a thri rhagflaenydd yn colli eu seddi Cymreig". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
  2.  BBC News AMs profile: Alun Cairns. BBC (12 Mai 1998).
  3. Y pwysau’n cynyddu ar Alun Cairns i sefyll i lawr , Golwg360, 6 Tachwedd 2019.
  4. 'Anodd iawn i Alun Cairns arwain ymgyrch y Ceidwadwyr' , BBC Cymru Fyw, 6 Tachwedd 2019.
  5. Alun Cairns yn ymddiswyddo wedi ffrae Ross England , BBC Cymru Fyw, 6 Tachwedd 2019.
  6. "BBC News AMs profile". BBC. 12 Mai 1998. Cyrchwyd 16 Hydref 2015.
  7. "Greasy wops slur Tory is general election candidate". WalesOnline. 22 Hydref 2008. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2008.
  8. "Tory candidate apologises for 'greasy wops' comment". The Guardian. London. 14 Mehefin 2008. Cyrchwyd 23 Ebrill 2010.
  9. http://icwales.icnetwork.co.uk/news/wales-news/2008/06/14/tory-resigns-over-greasy-wops-remark-91466-21075874
  10. "Tory suspended as party candidate". BBC Online. 15 Mehefin 2008. Cyrchwyd 15 Mehefin 2008.

Nodiadau

[golygu | golygu cod]

1 Ymddiswyddodd yn dilyn ffrae dros yr hyn oedd yn ei wybod am ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Gorllewin De Cymru
19992011
Olynydd:
Byron Davies
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Smith
Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg
20102024
Olynydd:
Kanishka Narayan
Rhagflaenydd:
Stephen Crabb
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
19 Mawrth 20166 Tachwedd 2019 [1]
Olynydd:
Simon Hart


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.