John Morris (aelod seneddol)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Gwir Anrhydeddus
Yr Arglwydd Morris o Aberafan
KG PC QC
Lord Morris.jpg
Yr Arglwydd Morris o Aberafon, 19 Mehefin 2006, Castell Windsor
Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru
Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon
Yn ei swydd
2 Mai 1997 – 29 Gorffennaf 1999
Prif WeinidogTony Blair
Rhagflaenwyd ganNicholas Lyell
Dilynwyd ganYr Arglwydd Williams o Fostyn
Twrnai Gwladol Cysgodol
Yn ei swydd
9 June 1983 – 2 May 1997
ArweinyddMichael Foot
Neil Kinnock
John Smith
Margaret Beckett (dros dro)
Tony Blair
Rhagflaenwyd ganArthur Davidson
Dilynwyd ganNicholas Lyell
Yn ei swydd
14 Gorffennaf 1979 – 24 Tachwedd 1981
ArweinyddJames Callaghan
Michael Foot
Rhagflaenwyd ganSamuel Silkin
Dilynwyd ganPeter Archer
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
4 Mai 1979 – 14 Gorffennaf 1979
Prif WeinidogJames Callaghan
Rhagflaenwyd ganNicholas Edwards
Dilynwyd ganAlec Jones
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn ei swydd
5 Mawrth 1974 – 4 Mai 1979
Prif WeinidogHarold Wilson
James Callaghan
Rhagflaenwyd ganPeter Thomas
Dilynwyd ganNicholas Edwards
Gweinidog Amddiffyn dros Offer
Yn ei swydd
16 Ebrill 1968 – 19 Mehefin 1970
Prif WeinidogHarold Wilson
Rhagflaenwyd ganRoy Mason
Dilynwyd ganRobert Lindsay
Ysgrifennydd Seneddol i'r Gweinidog Trafnidiaeth
Yn ei swydd
10 Ionawr 1966 – 16 Ebrill 1968
Prif WeinidogHarold Wilson
Rhagflaenwyd ganGeorge Lindgren
Dilynwyd ganRobert Brown
Aelod Seneddol
dros Aberafan
Yn ei swydd
8 Hydref 1959 – 7 Mehefin 2001
Rhagflaenwyd ganWilliam Cove
Dilynwyd ganHywel Francis
Manylion personol
Ganwyd (1931-11-05) 5 Tachwedd 1931 (89 oed)
Capel Bangor
Plaid wleidyddolCeidwadwyr
Alma materPrifysgol Aberystwyth
Coleg Gonville a Caius, Caergrawnt

Gwleidydd yw John Morris (ganwyd 5 Tachwedd 1931) a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 5 Mawrth 1974 tan 5 Mai 1979. Ganwyd a magwyd yn Gymro Cymraeg yng Nghapel Bangor, Aberystwyth, Ceredigion. Cynrychiolodd Aberafan yn Senedd San Steffan rhwng 1959 a 2001.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhieni'r Arglwydd Morris oedd D. W. Morris, Penywern, Talybont, Ceredigion a Mary Olwen Ann Morris, ei wraig. Ym 1959 priododd Margaret ferch Edward Lewis, OBE, YH, Llandysul; bu iddynt tair merch.[1]

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

O Ysgol Ardwyn, Abersytwyth aeth yn ei flaen i brifysgol y dref honno cyn troi ei lwybr tuag at Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflawnodd ei Wasanaeth Cenedlaethol (cyfnod o wasanaeth milwrol gorfodol) fel swyddog yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a’r Gatrawd Gymreig. Fe’i galwyd i'r Bar, yn Gray's Inn ym 1954. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1973 ac yn Feinciwr ym 1985. Bu’n gweithio fel Ysgrifennydd Cyffredinol ac Ymgynghorydd Cyfreithiol Undeb Amaethwyr Cymru rhwng 1956 a 1958.[1]

Gyrfa gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolodd Etholaeth Aberafan fel Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur rhwng 1959 hyd at 2001, sef y cyfnod hiraf, ar y pryd, i unrhyw Aelod Seneddol yng Nghymru.

Bu'n Ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Ynni ac yn yr Adran Cludiant. Bu hefyd yn Ysgrifennydd dros Amddiffyn, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn Dwrnai Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, a'r un swydd wedyn yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1997 a 1999. Llond dwrn yn unig o Aelodau Seneddol Llafur a ddaliodd swydd dan Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair. Bu hefyd yn gyfrifol am Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 ‘MORRIS OF ABERAVON’, Who's Who 2017, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2017; online edn, Oxford University Press, 2016 ; online edn, Nov 2016 accessed 9 April 2017