Byron Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Byron Davies
Byron Davies - National Assembly for Wales.jpg
Aelod Cynulliad,
Rhanbarth Gorllewin De Cymru
Rhagflaenwyd gan Martin Caton
Dilynwyd gan Tonia Antoniazzi
Mewn swydd
6 Mai 2011 – 8 Mai 2015
Rhagflaenwyd gan Dr Dai Lloyd
Dilynwyd gan Altaf Hussain
Aelod Seneddol
Gwyr
Mewn swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Manylion personol
Ganed (1952-09-04) 4 Medi 1952 (66 oed)
Abertawe
Plaid gwleidyddol Y Blaid Geidwadol
Alma mater University of West London
Website byrondavies.org.uk

Mae Henry Byron Davies (a aned 4 Medi 1952) yn wleidydd Plaid Geidwadol, sydd wedi cynrychioli Rhanbarth Gorllewin De Cymru fel AC a Gwŷr fel AS.

Bywyd a gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Byron Davies ym Mhorth Einon, Gŵyr ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Tre-gŵyr.[1] Roedd yn swyddog heddlu yn Llundain cyn ei ddethol fel ymgeisydd Cynulliad Ceidwadwyr Cymru. Tra yn yr heddlu, fe gyrhaeddodd radd uwch fel ditectif yng Ngwasanaeth Heddlu'r Metropolitan.[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Davies yn Aelod Cynulliad Rhanbarth Gorllewin De Cymru ar restr y Blaid Geidwadol yn Etholiad Cynulliad 2011. Yn Etholiad Cyffredinol Y Deyrnas Unedig 2015 safodd fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Gŵyr gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Lafur, gan ddod i ben cyfnod di-dor o 109 mlynedd o gynrychiolaeth Llafur yr etholaeth. Wedi ei ethol i Sansteffan safodd i lawr fel AC. Yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 collodd Davies ei sedd wrth i Lafur cipio'r etholaeth yn ôl.[3]

Roedd Davies yn gwrthwynebu aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm 2016.[4] 

Gyrfa ôl-Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Medi 2017 penodwyd Davies yn gadeirydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn olynydd i'r cyn AS ac ASE Jonathan Evans.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Dr Dai Lloyd
Aelod Cynulliad dros Rhanbarth Gorllewin De Cymru
20112015
Olynydd:
Altaf Hussain
Rhagflaenydd:
Martin Caton
Aelod Seneddol etholaeth Gŵyr
20152017
Olynydd:
Tonia Antoniazzi