Tonia Antoniazzi
| Tonia Antoniazzi | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Hydref 1971 Llanelli |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Addysg | Postgraduate Certificate in Education |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, chwaraewr rygbi'r undeb |
| Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Gwefan | https://www.toniaantoniazzi.co.uk |
| Chwaraeon | |
Gwleidydd o Gymru gyda'r Blaid Llafur ac Aelod Seneddol dros etholaeth Gŵyr yn San Steffan yw Tonia Antoniazzi (ganwyd 5 Hydref 1971).[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Tonia yn Llanelli i fam a oedd yn Gymraes a thad a oedd yn Eidalwr. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gatholig John Lloyd a Choleg Gorseinon. Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Exeter gan ennill Tystysgrif Ol-raddedig mewn Addysg o Brifysgol Caerdydd. Aeth ymlaen i gael ei phenodi yn bennaeth ieithoedd yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli. Mae hefyd yn gyn-chwaraewraig rygbi rhyngwladol dros Gymru.[2]
Gyrfa seneddol
[golygu | golygu cod]Safodd Tonia yn Etholiad Cyffredinol 2017 fel ymgeisydd i etholaeth Gwyr, a oedd ar y pryd yn cael ei dal gan y Ceidwadwr Byron Davies gyda mwyafrif o 27 pleidlais, y sedd fwyaf ymylol yn y Deyrnas Gyfunol. Bu'n llwyddiannus, gan ennill y sedd i'r Blaid Lafur gyda mwyafrif o 3,269 o bleidleisiau.
Gwnaeth Antoniazzi ei araith gyntaf ar ddydd Iau 29 Mehefin 2017. Yn ei araith trafododd sut gwnaeth mewnfudo Eidalaidd ddylanwadu ar ddiwylliant caffi yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tonia Antoniazzi MP". myparliament.info. MyParliament. Cyrchwyd 11 Awst 2017.
- ↑ http://swanseabaytimes.com/32940/282819/a/ex-welsh-womens-rugby-player-contests-uks-most-marginal-seat[dolen farw] Swansea Bay Times, Mehefin 2017
- ↑ Cornock, David (29 Mehefin 2017). "New MP claims credit for ice cream - and cafe culture". BBC News. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2017.