George Thomas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd Llafur oedd Thomas George Thomas, Is-iarll Tonypandy (29 Ionawr, 1909 - 22 Medi, 1997); bu'n Aelod Seneddol rhwng 1945 a 1983, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru (5 Ebrill 1966 - 5 Ebrill 1968) ac yn Llefarydd y Tŷ'r Cyffredin (3 Chwefror 1976 – 10 Mehefin 1983). Ef, yn anad neb arall, a groesawodd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969; roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn drwy drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969.

Fel is-Weinidog yng Nghabined Harold Wilson ef oedd un o'r cyntaf i gyrraedd Trychineb Aberfan yn 1966. Daeth i sylw'r cyhoedd pan ddechreuwyd darlledu trafodaethau'r Tŷ'r Cyffredin ag yntau'n Llefarydd.

Y person[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Thomas ym Mhort Talbot a gweithiodd fel athro yn Llundain ac yng Nghaerdydd. Roedd yn fab i löwr, Zachariah Thomas, a siaradai Gymraeg, ac a oedd o Gaerfyrddin ac Emma Jane Tilbury, merch un o sefydlwyr achos Methodistiaeth Saesneg yn Nhonypandy. Roedd hi'n hanu o Lanfield, Swydd Hampshire Bu'n aelod o'r Methodistiaid hyd ddiwedd ei oes a phregethodd yn eu capeli.

Roedd ei dad yn feddwyn a adawodd ei wraig, gan ei gadael i fagu pump o blant ar ei phen ei hun. Magwyd George Thomas gan ei fam ym mhentref Trealaw yn groes i'r afon o dref Tonypandy. Mynychodd Ysgol Ramadeg Tonypandy, 1920-27. Bu'n athro heb drwydded yn Dagenham cyn dilyn cwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Southampton rhwng 1929 a 1931.

Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1924 a thraddododd ei araith wleidyddol gyntaf pan oedd yn ddeunaw oed i 'Gynghrair Cydweithredol Merched Tonypandy'.

Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1983 ond yn 2014-5 cafwyd nifer o gyhuddiadau ei fod wedi bocha gyda phlant mewn modd rhywiol.[1] Datgelodd cydaelod Seneddol Leo Absey yn ei lyfr Tony Blair: The Man Behind the Smile ychydig wedi i George Thomas ymddeol o wleidyddiaeth ei fod yn hoyw a'i fod wedi talu nifer o bobl i fod yn dawel am y wybodaeth yma, rhag ei wneud yn gyhoeddus.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 9 Awst 2015
  2. Abse, Leo (2001). Tony Blair: The Man Behind the Smile. Robson Books. ISBN 1-86105-364-9. 
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ernest Bennett
Aelod Seneddol dros Caerdydd Canolog
19451950
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd
19501983
Olynydd:
Stefan Terlezki
Rhagflaenydd:
Selwyn Lloyd
Llefarydd y Tŷ
Chwefror 197610 Mehefin 1983
Olynydd:
Bernard Weatherill
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Cledwyn Hughes
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
5 Ebrill 196820 Mehefin 1970
Olynydd:
Peter Thomas
Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.