Nicholas Edwards, Barwn Crughywel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Roger Nicholas Edwards, Barwn Crucywel (ganwyd 25 Chwefror 1934) yn wleidydd Ceidwadol ac yn gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Edwards yn Llundain ym 1934, yn fab i Cecil Ralph Edwards, CBE, FSA, a Marjorie Ingham Brooke, ei wraig.

Priododd  Ankaret Healing ym 1963 ac mae ganddynt un mab a dwy ferch.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg San Steffan a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1957 a MA ym 1968.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflawnodd ei wasanaeth cenedlaethol fel ail is-gapten ym Mataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 1952 – 1954.

Cyn dod yn Aelod Seneddol bu Edwards yn gweithio'n bennaf ym myd tansgrifeniad yswiriant. Roedd yn aelod o Lloyds, 1965–2002, yn gyfarwyddwr Cwmni Yswiriant Brandt’s 1957–76; A L Sturge Ltd, 1970–76; Brandt’s Ltd, 1974–76; Globtik Tankers Ltd, 1976–79 a P A International & Sturge Underwriting Agency Ltd, 1977–79.

Bu'n gyfarwyddwr cwmni teledu HTV o 1987 i 2002 gan wasanaethu fel cadeirydd y cwmni o 1997 i 2002. Bu'n gyfarwyddwr Associated British Ports Holdings 1988–99 ac yn is-gadeirydd Cwmni Mwyngloddio Môn 1988–2000.[2]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn etholiad cyffredinol 1970 cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel aelod seneddol Ceidwadol Sir Benfro; bu'n cynrychioli'r etholaeth yn ddi-dor hyd ei ymddeoliad yn etholiad cyffredinol 1987. Rhwng 1975 a 1979 roedd yn Llefarydd yr Wrthblaid dros Faterion Cymreig (Ysgrifennydd Gwladol cysgodol Cymru). Pan ddaeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog ym 1979, penodwyd Edwards yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru; yr unig Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gynrychioli etholaeth Gymreig yn Llywodraethau Ceidwadol 1979-1997.[3]

Edwards oedd Ysgrifennydd Cymru pan benderfynodd Llywodraeth Thatcher gefnu ar eu haddewid i ddefnyddio'r 4ydd sianel deledu yng Nghymru ar gyfer gwasanaeth Cymraeg, gan ysgogi gwrthdystiadau led-led Cymru a bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio hyd angau.[4]

Wedi ymddeol o Dŷ'r Cyffredin cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Crucywel o Bont Esgob yn y Mynydd Du a Sir Powys.

Tŷ Crucywel (Tŷ Hywel bellach)

Bu Edwards yn gwasanaethu ar nifer o gwangos gan gynnwys cadeirio'r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, enwyd un o brif adeiladau'r Bae yn "Dŷ Crucywel" sef man cyfarfod gwreiddiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn codi'r Senedd yn 2006.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [1]
  2. 2.0 2.1 CRICKHOWELL, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Nov 2014 [2] adalwyd 13 Ebrill 2015
  3. Lord Crickhowell Papers [3] adalwyd 13 Ebrill 2015
  4. Gwynfor Evans www.independent.co.uk; adalwyd 13 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Desmond Donnelly
Aelod Seneddol Sir Benfro
19701987
Olynydd:
Nicholas Bennett
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
John Morris
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
(5 Mai 1979 - 13 Mehefin 1987)
Olynydd:
Peter Walker