Llefarydd Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)

Oddi ar Wicipedia

Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yw swyddog llywyddu Tŷ'r Cyffredin, siambr isaf Senedd y Deyrnas Unedig. Etholir y Llefarydd gan Aelodau Seneddol, o blith ei gilydd.

Y Llefarydd sy'n cadeirio dadleuon y Tŷ, gan benderfynu pa aelod sy'n cael siarad. Ef hefyd sy'n gyfrifol am gadw trefn yn ystod y ddadl, gan gosbi unrhyw aelod sy'n torri rheolau'r Tŷ. Yn wahanol i Lefarwyr y rhan fwyaf o wledydd mae niwtraliaeth yn hanfodol yn y swydd, a disgwylir iddo ef neu hi fod yn ddiduedd ym mhob achos. Pan gymer y swydd mae'r Llefarydd yn torri pob cysylltiad â'i blaid ac nid yw'n cymryd rhan yn y ddadl, ar wahân i gadw trefn a dewis y siaradwr nesaf. Pan geir pleidlais gyfartal, gall fwrw pleidlais er mwyn i'r naill ochr neu'r llall ennill y ddadl. Ond ceir rheol am hyn (Rheol y Llefarydd Denison) a disgwylir iddo ef neu hi gadw at y traddodiad hwn. Er enghraifft, mae'n rhaid iddo bleidleisio i symud deddfau drwy'r Tŷ mor gyflym ac sy'n bosibl, a phan geir pleidlais o ddiffyg hyder, mae'n rhaid i'r Llefarydd bleidleisio o blaid y person.

Mae'r Llefarydd hefyd yn parhau'n Aelod Seneddol yn ystod y cyfnod hwn; mae hefyd yn derbyn llety o fewn Tŷ'r Cyffredin. Disgwylir i'r deiliad hefyd wneud rhai swyddi gweinyddol a seremonïol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "What does the Speaker actually do?". BBC News. 22 Mehefin 2009. Cyrchwyd 23 Mehefin 2009.