Neidio i'r cynnwys

Kanishka Narayan

Oddi ar Wicipedia
Kanishka Narayan
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner India India
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Gwleidydd Cymreig yw Kanishka Narayan (ganwyd c.1991)[1] sydd wedi bod yn Aelod Seneddol San Steffan dros Bro Morgannwg ers 2024.[2][3] Ef yw'r AS cyntaf o dras Asiaidd i gynrychioli etholaeth Gymreig yn San Steffan.[4] Yn aelod o'r Blaid Lafur, enillodd y sedd oddi ar y Ceidwadwr Alun Cairns.

Cafodd Narayan ei eni yn Bihar, India. Mae'n nai i Jayant Kumar, cyfarwyddwr coleg y gyfraith yn India.[3] Symudodd ei deulu i Gymru pan oedd yn 12 oed [1] ac fe'i magwyd yng Caerdydd. [5] Treuliodd flwyddyn yn Ysgol Uwchradd Cathays, ond aeth wedyn i Goleg Eton yn Berkshire gyda chymorth ysgoloriaeth. [6] Ef hefyd yw’r cyn-ddisgybl cyntaf o Goleg Eton i gynrychioli etholaeth Gymreig ers 1966.[7] Astudiodd PPE ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn ennill MBA o Brifysgol Stanford yn UDA.[1]

Yn 2023 symudodd Narayan o Gaerdydd i fyw ar y Glannau yn y Barri, Bro Morgannwg, ar ôl cael ei ddewis yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Bro Morgannwg. [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Prince, Rosa (Awst 2023). "London Playbook - Postcard from Vale of Glamorgan". Politico. Cyrchwyd 2024-07-03.
  2. "Vale of Glamorgan | General Election 2024 | Sky News". election.news.sky.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-05.
  3. 3.0 3.1 "From Bihar to UK Parliament, 33-yr-old Kanishka Narayan makes the leap". Business Standard (yn Saesneg). 7 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2024.
  4. "Wales elects its first MP of colour as Kanishka Narayan takes Vale of Glamorgan". ITV News (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2024.
  5. Jamshidian, Harry (2020-06-20). "Labour's Kanishka Narayan ready for General Election fight". Barry and District News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-03.
  6. Courea, Eleni (2020-06-05). "Rising stars who could play a big part in a Labour government". theguardian.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-03.
  7. "Wales to get first Old Etonian MP in nearly 60 years". Nation Cymru (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2024.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alun Cairns
Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg
2024 – presennol
Olynydd:
presennol