Meistr Gweinyddiaeth Busnes

Oddi ar Wicipedia

Gradd meistr mewn gweinyddiaeth busnes ydy Meistr Gweinyddiaeth Busnes (Saesneg: Master of Business Administration / MBA), sy'n denu pobl o ystod eang o ddisgyblaethau academaidd. Mae'r radd yn tarddu o'r Unol Daleithiau, pan fu'r wlad yn diwydianeiddio yn ystod yr 19g roedd cwmnïoedd yn chwilio am ddull gwyddonol o reoli. Craidd y rhaglen feistr yw i gyflwyno amryw rannau o fusnes megis cyfrifyddu, marchnata, adnoddau dynol, rheolaeth gweithredoedd ac yn y blaen i'r myfyrwyr. Tua traean o'u ffordd trwy eu hastudiaethau, bydd myfyriwr y gradd meistr yn dewis agwedd o weinyddiaeth busnes i ganolbwyntio arni.

Mae cyrff archrediad arbennig yn bodoli ar gyfer graddau Meistr Gweinyddiaeth Busnes, er mwyn cadarnahu cysondeb mewn ansawdd addysg fusnes i ôlraddedigion. Caiff y cwrs ei gynnig mewn nifer o wledydd yn fyd eang, yn rhan ac yn llawn amser.

Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato