Bydd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024 yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2024.[2] Bydd yn penderfynu cyfansoddiad Tŷ'r Cyffredin, sy'n penderfynu Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig. Bydd newidiadau ffiniau newydd i bob pwrpas, y newidiadau cyntaf o'u cymharu ers etholiad cyffredinol 2010
Roedd rhaid i'r etholiad ddigwydd cyn 28 Ionawr 2025. Ym mis Ionawr 2024, dywedodd y Prif Weinidog mai "Fy rhagdybiaeth weithredol yw y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal yn ail hanner y flwyddyn". Byddai rhaid fod wedi diddymu'r Senedd erbyn 17 Rhagfyr 2024 fodd bynnag, ond roedd hyn yn annhebygol yn ôl dadansoddwyr oherwydd nifer isel a bleidleisiodd yn ystod cyfnod y Nadolig.
Roedd awgrym y byddai'r Prif Weinidog yn galw'r etholiad yn yr Hydref, er mwyn gadael i'r sefyllfa economaidd wella, gyda chwyddiant a chyfraddau llog yn disgyn. Er hynny, cyhoeddodd Rishi Sunak ar 22 Mai 2024 y byddai etholiad o fewn 6 wythnos ar 4 Gorffennaf.
↑Ed Davey was the Liberal Democrats' acting leader from 13 December 2019, following the electoral defeat and resignation of Jo Swinson, to 27 August 2020, when he was elected permanent leader.