Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019
Flag of Scotland.svg     Flag of Cornwall.svg     Flag of Wales (1959–present).svg     Ulster Banner.svg     Flag of England.svg
2017 ←
12 Rhagfyr 2019
→ Nesa

Pob un o'r 650 sedd yn y Tŷ'r Cyffredin
326 sedd i gael mwyafrif
Nifer a bleidleisiodd 67.3% (Decrease1.6pp)[1]
  Plaid 1af Ail blaid
  Boris Johnson Jeremy Corbyn
Arweinydd Boris Johnson Jeremy Corbyn
Plaid Ceidwadwyr Llafur
Arweinydd ers 23 Gorffennaf 2019 12 Medi 2015
Sedd yr Arweinydd Uxbridge and South Ruislip Islington North
Seddi tro yma 317 sedd, 42.4% 262 sedd, 40.0%
Seddi cynt 298 242
Seddi wedi'r etholiad 365 203
Newid yn y seddi increase 48 Decrease 59
Canran 43.6% 32.2%
Tuedd increase 1.2 pp Decrease 7.8 pp

  Arall Arall
  Nicola Sturgeon Jo Swinson
Arweinydd Nicola Sturgeon Jo Swinson
Plaid SNP Rhyddfrydwyr
Arweinydd ers 14 Tachwedd 2014 22 Gorffennaf 2019
Sedd yr arweinydd Ni safodd[n 1] East Dunbartonshire
(collodd ei sedd)
Etholiad diwethaf 35 sedd, 3.0% 12 sedd, 7.4%
Seddi cyn 35 12
Seddi wedi'r etholiad 48 11
Newid yn y seddi increase 13 Decrease 1
Canran 3.9% 11.5%
Swing increase 0.9 pp increase 4.1 pp

2019UKElectionMap.svg

Map o'r etholaethau

Prif Weinidog cyn yr etholiad

Boris Johnson
Ceidwadwyr

Prif Weinidog

Boris Johnson
Ceidwadwyr

Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019 ar 12 Rhagfyr 2019, dwy flynedd a hanner wedi'r etholiad diwethaf. Hon oedd yr etholiad cyntaf i'w chynnal yn Rhagfyr ers 1923.[2] Cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif clir a gwelwyd yr SNP yn cipio cyfanswm o 48 o seddi; yng Ngogledd Iwerddon, cipiwyd mwyafrif y seddau gan bleidiau gweriniaethol, oddi wrth yr unoliaethwyr. Cadwodd Plaid Cymru eu pedair sedd. Hwn oedd yr etholiad gwaethaf i'r Blaid Lafur ers 1935.[3][4]

Galwyd yr etholiad yn dilyn methiant y llywodraeth Doriaidd i basio deddfau ynglyn â Brexit a'u methiant i symud ymlaen dros gyfnod o 3 blynedd. Cafodd y cynnig i gynnal yr etholiad hon ei basio gan fwyafrif llethol gyda 438 o blaid ac 20 yn erbyn.[5] Bu i'r SNP ymatal eu pleidlais, ond fe bleidleisiodd ASau Plaid Cymru yn erbyn y cynnig, gan ddweud mai cynnal refferendwm y bobl ar adael yr Undeb Ewropeaidd ddylai ddod yn gyntaf.

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 7 Tachwedd 2019 cyhoeddwyd fod cynghrair rhwng tair plaid, sy'n gwrthwynebu unrhyw fath o Brecsit: Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol.[6] Bydd hyn yn effeithio 11 sedd yng Nghymru. Drwy wledydd Prydain bydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd yn cydweithio mewn 49 o seddau. Mae cynsail i'r cynghreirio yma, sef Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019, lle ildiodd Plaid Cymru eu hymgeisydd er mwyn i'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill y sedd. Cafwyd cynghrair cyn hynny hefyd 2016 pan ddaeth Plaid Cymru, yr SNP a'r Blaid Werdd yn Lloegr at ei gilydd.[7]

Seddi:
Plaid Cymru: Arfon, Caerffili, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Dwyfor Meirionnydd, Llanelli, Pontypridd ac Ynys Môn.
Y Blaid Werdd - Bro Morgannwg; dyma sedd Alun Cairns
Y Democratiaid Rhyddfrydol - Brycheiniog a Sir Faesyfed, Caerdydd a Maldwyn

Trefniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gosodwyd isafswm oedran yr etholwyr yn 18, fel sy'n arferol mewn Etholiadau Cyffredinol, yn hytrach na 16 fel sy'n digwydd yn etholiadau Senedd yr Alban a rhai gwledydd eraill.

Bydd pob etholaeth seneddol yn y Deyrnas Gyfunol yn ethol un Aelod Seneddol (AS) i Dŷ’r Cyffredin gan ddefnyddio’r system bleidleisio 'y cyntaf heibio'r postyn'. Ceir 650 etholaeth ac mae 40 o'r rheiny yng Nghymru, 59 yn yr Alban a 18 yng Ngogledd Iwerddon. Roedd bwriad i leihau nifer yr etholaethau i 600 (a 29 o'r rheiny yng Nghymru) yn etholiad 2020, ond nid oedd y trefniadau i wneud hynny wedi eu cwbwlhau. Yn ôl arfer cyfansoddiadol, bydd yr arweinydd plaid neu glymblaid sy'n hawlio mwyafrif o aelodau etholedig yn cael gwahoddiad gan Frenhines Lloegr i ddod yn Brif Weinidog.

Y diwrnod cau ar gyfer yr ymgeiswyr oedd 14 Tachwedd 2019.[8]

Y polau piniwn cyn yr etholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Graff o'r polau piniwn a gynhaliwyd cyn yr etholiad.
  Ceidwadwyr
  Llafur
  Democratiaid Rhyddfrydol
  Brexit Party
  SNP & Plaid Cymru
  Y Blaid Werdd
  Independent Group for Change
  UKIP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Results of the 2019 General Election". BBC News.
  2. Chris Hanretty (29 October 2019). "Why UK election outcome is impossible to predict". Politico Europe. Cyrchwyd 29 Hydref 2019.
  3. Stewart, Heather (12 December 2019). "Exit poll predicts 86-seat majority for Boris Johnson and Conservatives". The Guardian. https://www.theguardian.com/politics/2019/dec/12/exit-poll-predicts-majority-for-boris-johnson-and-conservatives.
  4. "Jeremy Corbyn: 'I will not lead Labour at next election'". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2019.
  5. BBC Cymru Fyw; adalwyd 6 Tachwedd 2019.
  6. [https://nation.cymru/opinion/the-remain-alliance-can-stop-brexit-and-send-a-record-number-of-plaid-mps-to-westminster/ Nation Cymru; adalwyd 7 Tachwedd 2019.
  7. golwg360.cymru; adalwyd 7 Tachwedd 2019.
  8. "Timetable for UK Parliamentary general election - Thursday 12 Rhagfyr 2019". Electoral Commission. Cyrchwyd 1 November 2019.

Troednodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mae Sturgeon yn aelod o Lywodraeth yr Alban, nid Westminster. Ian Blackford, AS dros Ross, Skye and Lochaber yw arweinydd yr SNP yn Westminster.
1801 cyfethol | 1802 | 1806 | 1807 | 1812 | 1818 | 1820 | 1826 | 1830 | 1831 | 1832 | 1835 | 1837 | 1841 | 1847 | 1852 | 1857 | 1859 | 1865 | 1868 | 1874 | 1880 | 1885 | 1886 | 1892 | 1895 | 1900 | 1906 | 1910 (Ion) | 1910 (Rhag) | 1918 | 1922 | 1923 | 1924 | 1929 | 1931 | 1935 | 1945 | 1950 | 1951 | 1955 | 1959 | 1964 | 1966 | 1970 | 1974 (Chwe) | 1974 (Hyd) | 1979 | 1983 | 1987 | 1992 | 1997 | 2001 | 2005 | 2010 | 2015 | 2017 | 2019
Refferenda y Deyrnas Unedig Baner Y Deyrnas Unedig
1975 | 2011 | 2016