Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar 28 Chwefror1974, y cyntaf o ddau Etholiad cyffredinol i'w cynnal y flwyddyn honno. Ni chafodd unrhyw blaid fwyafrif, gan adael senedd grog am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y Blaid Gweidwadol, dan Edward Heath, y nifer fwyaf o bleidleisiau, ond cafodd y Blaid Lafur, dan Harold Wilson, fwy o seddau. Gwrthododd Unoliaethwyr Wlster gymeryd y chwip Geidwadol, ac wedi methiant trafodaethau gyda Jeremy Thorpe, arweinydd y Rhyddfrydwyr, ymddiswyddodd Heath fel Prif Weinidog, ac olynwyd ef gan Wilson.
Enillodd Plaid Cymru ddwy sedd: Caernarfon a Meirionnydd, y seddau cyntaf erioed iddynt eu hennill mewn Etholiad cyffredinol, gyda Dafydd Wigley yn cael ei ethol dros Gaernarfon a Dafydd Elis Thomas dros Feirionnydd. Methodd Gwynfor Evans ag ail ennill Caerfyrddin o dair pleidlais.
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Chwefror 1974