Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1959
| Enghraifft o: | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig |
|---|---|
| Dyddiad | 8 Hydref 1959 |
| Rhagflaenwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1955 |
| Olynwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1964 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/025vjl |
Cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1959 ar 8 Hydref 1959. Enillwyd yr etholiad gan y Ceidwadwyr gyda Harold Macmillan yn parhau i fod yn Brif Weinidog. Slogan gofiadwy a ddefnyddiwyd ganddo yn ystod yr ymgyrchu oedd "you have never had it so good". Ar ôl yr etholiad roedd gan y Ceidwadwyr 365 aelod seneddol, y Blaid Lafur 258 a'r Rhyddfrydwyr 6 yn unig. Enillodd Macmillan er gwaethaf yr adwaith yn erbyn argyfwng Suez (1956) a phroblemau economaidd yn y DU. Yn ogystal roedd ei blaid wedi cynyddu ei mwyafrif am y trydydd dro yn olynol, camp unigryw yn hanes gwleidyddiaeth Prydain.
Yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Ymladdwyd ugain sedd gan Blaid Cymru yn yr etholiad hwn a chael pedair mil pleidlais y sedd ar gyfartaledd, cyfanswm o 78,000 (10.3% o'r cyfanswm) ar draws Cymru.
Penfro
[golygu | golygu cod]Yn yr etholiad hwn y safodd Waldo Williams dros Blaid Cymru yn etholaeth Penfro, y tro cyntaf i Blaid Cymru ymladd y sedd honno. Desmond Donnelly oedd yr A.S. ers 1951 ac ef enillodd yn yr etholiad hwn.
Meirionnydd
[golygu | golygu cod]Roedd y cenedlaetholwyr yn disgwyl i Gwynfor Evans ennill sedd Meirionnydd i Blaid Cymru ond mawr fu ei siom a dyma'r tro olaf i Gwynfor Evans ymladd y sedd. Safodd yn etholaeth Caerfyrddin yn yr etholiadau i ddilyn. Cadwodd T. W. Jones y sedd i Lafur. Daeth y Rhyddfrydwyr yn ail yn agos iawn i Lafur. Trydydd oedd Gwynfor Evans.
| Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1959 | ||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Seddi | Etholiadau | % | |||||
| 1801 cyfethol | 1802 | 1806 | 1807 | 1812 | 1818 | 1820 | 1826 | 1830 | 1831 | 1832 | 1835 | 1837 | 1841 | 1847 | 1852 | 1857 | 1859 | 1865 | 1868 | 1874 | 1880 | 1885 | 1886 | 1892 | 1895 | 1900 | 1906 | 1910 (Ion) | 1910 (Rhag) | 1918 | 1922 | 1923 | 1924 | 1929 | 1931 | 1935 | 1945 | 1950 | 1951 | 1955 | 1959 | 1964 | 1966 | 1970 | 1974 (Chwe) | 1974 (Hyd) | 1979 | 1983 | 1987 | 1992 | 1997 | 2001 | 2005 | 2010 | 2015 | 2017 | 2019 | 2024 |
| Refferenda y Deyrnas Unedig |
| 1975 | 2011 | 2016 |