Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017
Y Deyrnas Unedig
2015 ←
8 Mehefin 2017

Pob un o'r 650 sedd yn y Tŷ'r Cyffredin
326 sedd i gael mwyafrif
Nifer a bleidleisiodd 68.7% (increase2.3%)
  Plaid 1af Ail blaid 3ydd plaid
  Theresa May Jeremy Corbyn Nicola Sturgeon
Arweinydd Theresa May Jeremy Corbyn Nicola Sturgeon
Plaid Ceidwadwyr Llafur SNP
Arweinydd ers 11 Gorffennaf 2016 12 Medi 2015 14 Tachwedd 2014
Sedd yr Arweinydd Maidenhead Gogledd Islington Ddim yn sefyll
Yr etholiad diwethaf 330 sedd, 36.9% 232 sedd, 30.4% 56 seats, 4.7%
Seddi cynt 330 229 54
Seddau a gipiwyd 317* 262 35
Newid yn y seddau Decrease 13 increase 30 Decrease 21
Cyfans. pleidl. 13,667,213 12,874,985 977,569
Canran 42.4% 40.0% 36.9% (yr Alban)
Tuedd increase 5.5 pwynt % increase 9.5 pwynt % Decrease 1.7 pwynt %

  Arall Arall Arall
  Tim Farron Arlene Foster Leanne Wood
Arweinydd Tim Farron Arlene Foster Leanne Wood
Plaid Rhyddfrydwyr Democrataidd DUP Plaid Cymru
Arweinydd ers 16 Gorffennaf 2015 17 Rhagfyr 2015 15 Mawrth 2012
Sedd yr arweinydd Westmorland and Lonsdale Ni safodd Ni safodd
Etholiad diwethaf 8 sedd, 7.9% 8 sedd, 0.6% 3 sedd (12.1%)
Seddi cyn 9 8 3 sedd
Seddau enillwyd 12 10 4
Newid yn y seddi increase 4 increase 2 increase +1
Nifer bleidleisiodd 2,371,772 292,316 164,466
Canran 7.4% 0.9% 10.4 (Cymru)
Swing Decrease 0.5 pwynt % increase 0.3 pwynt % Decrease -1.7 pwynt %

2017UKElectionMap.svg

Map o etholaethau'r Y Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog cyn yr etholiad

Theresa May
Ceidwadwyr

Prif Weinidog

Theresa May

Circle frame.svg

Seddi yn ôl plaid      Ceidwadwyr (48.8%)     Llafur (40.3%)     SNP (5.4%)     Democratiaid Rhyddfrydol (1.8%)     DUP (1.5%)     Sinn Féin (1.1%)     Plaid Cymru (0.6%)     Gwyrdd (0.2%)     Llefarydd (0.2%)     Annibynol (0.2%)

Canlyniad etholiad 2017 yng Nghymru.       Llafur      Ceidwadwyr      Plaid Cymru

Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 ar 8 Mehefin 2017. Yn unol â Deddf Seneddau Tymor Sefydlog 2011, dyddiad arferol yr etholiad fyddai 7 Mai 2020, ond galwodd y Prif Weinidog Teressa May am etholiad gynnar gan fod ei mwyafrif o 12 mor fach a phleidleisiodd Aelod Seneddol Tŷ'r Cyffredin o blaid etholiad gynnar, o 522 i 13.[1] Fodd bynnag, collwyd y mwyafrif hwn o ganlyniad i'r etholiad a chafwyd senedd grog.

Gydag etholiadau lleol wedi'u trefnu ar gyfer 4 Mai 2017 roedd y pleidiau wedi bod yn ymgyrchu'n barod ar lefel leol, er mai annisgwyl oedd y cyhoeddiad am yr etholiad cyffredinol fis yn ddiweddarach. Oherwydd hynny nid oedd nifer o'r pleidiau wedi dewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholaethau felly roedd yn rhaid cyflymu'r dewis mewn sawl ardal. Roedd galw'r etholiad hon, felly, yn dipyn o sioc i bawb. Pan wnaed hynny roedd y Ceidwadwyr 20% ar y blaen i Lafur, dan arweiniad Jeremy Corbyn; credodd Theresa May y byddai'n ychwanegu cryn dipyn at ei mwyafrif o 12.

Trefniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gosodwyd isafswm oedran yr etholwyr yn 18, fel sy'n arferol mewn Etholiadau Cyffredinol, yn hytrach na 16 fel sy'n digwydd yn etholiadau Senedd yr Alban a rhai gwledydd eraill.

Mewn etholiadau cyffredinol yn y Deyrnas Unedig, mae'r cyhoedd yn pleidleisio i ethol un Aelod Seneddol o bob etholaeth i Dŷ'r Cyffredin, system sy'n cael ei alw "y cyntaf i'r felin". Ceir 650 etholaeth ac mae 40 o'r rheiny yng Nghymru, 59 yn yr Alban a 18 yng Ngogledd Iwerddon. Roedd bwriad i leihau nifer yr etholaethau i 600 (a 29 o'r rheiny yng Nghymru) yn etholiad 2020, ond nid oedd y trefniadau i wneud hynny wedi eu cwbwlhau. Yn ôl arfer cyfansoddiadol, bydd yr arweinydd plaid neu glymblaid sy'n hawlio mwyafrif o aelodau etholedig yn cael gwahoddiad gan Frenhines Lloegr i ddod yn Brif Weinidog.

Canlyniad yr etholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan sylweddolodd y Prif Weinidog Teresa May fod ei mwyafrif o 12 wedi'i chwalu, cysylltodd gydag arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd yn Iwerddon a chytunwyd i bartneriaeth anffurfiol mewn 'llywodraeth y lleiafrif', yn hytrach nag mewn clymblaid ffurfiol.[2] Ymhlith y rhai a gollodd eu seddi yn yr etholiad hon roedd: Alex Salmond (cyn- Cyn-Brif Weinidog yr Alban); Angus Robertson (Dirprwy Arweinydd yr SNP); Nick Clegg (Cyn Ddirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2007 a 2015. Yn union wedi'r etholiad, ymddiswyddodd Paul Nuttall o Blaid Annibyniaeth y DU (UKIP) wedi iddynt fethu a chipio unrhyw sedd; yn union wedi hynny awgrymodd Nigel Farage y byddai'n dychwelyd i wleidyddiaeth.

Roedd gwahaniaeth enfawr yn y modd yr ymladdodd y ddau brif arweinydd y Ceidwadwyr a Llafur; ar y naill law, gwelwyd Theresa May yn pwysleisio 'sefydlogrwydd a diogelwch', gwrthododd gymryd rhan mewn dadleuon cyhoeddus, gwnaeth ambell dro-pedol amlwg, a newidiodd ei manffesto ddiwrnod ar ôl ei gyhoeddi. Ar y llaw arall, gwelwyd Corbyn yn annerch torfeydd enfawr o bobl, cymerodd ran mewn dadleuon cyhoeddus, cadwodd at ei air heb unwaith wneud tro-pedol a llwyddodd i apelio at bobl ifanc. Yn wir, wedi'r etholiad, dywedodd ei feirniad mwyaf miniog, Owen Smith, iddo fod yn anghywir, ac a bod Corbyn "wedi fy mhrofi i a llawer o bobl eraill yn anghywir".[3]

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, oedd y cyntaf i ymweld â Chymru ar 21 Ebrill gan annerch torf o rhwng 2,000 a 3,000 o bobol yng ngogledd Caerdydd. Mae'n un o'r etholaethau ymylol pwysig sy'n pendilio rhwng y Ceidwadwyr a Llafur gan adlewyrchu buddugwyr yr etholiad ar draws y DU. [4]

Daeth Theresa May i Gymru ar 25 Ebrill gan rybuddio y byddai'r pleidiau arall "yn amharu ar ganlyniad" refferendwm y flwyddyn cynt. [5] Cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, cyn Lywydd Plaid Cymru y byddai'n sefyll ar eu rhan yn Ynys Môn.

Ysgytwyd yr ymgyrch etholiadol yng Nghymru gyda marwolaeth disymwth y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan ar 17 Mai. Penderfynodd y pleidiau atal eu hymgyrchu y diwrnod canlynol allan o barch.[6]

Cafodd y Blaid Lafur gryn lwyddiant, gan gipio tair sedd oddi wrth y Ceidwadwyr; cynyddodd Plaid Cymru nifer eu seddi o 3 i 4 a chollodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hunig sedd yng Nghymru: Ceredigion.

Plaid Seddi Pleidleisiau
Cyfanswm Ennill Colli Net Cyfanswm % Newid (%)
  Llafur 28 3 0 +3 771,354 48.9 +12.1
  Ceidwadwyr 8 0 3 -3 528,839 33.6 +6.3
  Plaid Cymru 4 1 0 +1 164,466 10.4 -1.7
  Democratiaid Rhyddfrydol 0 0 1 −1 71,039 4.5 −2.0
  UKIP 0 0 0 0 31,376 2.0 -11.6
  Y Blaid Werdd 0 0 0 0 5,128 0.3 -2.2
  Eraill 0 0 0 0 3,612 0.2 −0.1
Cyfanswm 40 1,575,814 Pleidleisiodd 68.6%

Yr Alban[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn yr etholiad, ac ers 2015, Plaid Cenedlaethol yr Alban (yr SNP) oedd 3edd blaid fwya'r DU, gan gynnal 56 o'r 59 sedd yn yr Alban. Fodd bynnag, collodd yr SNP 21 o'u Haelodau Seneddol yn yr etholiad hon ond roeddent yn parhau i fod y 3edd blaid fwyaf yn y DU ac yn yr Alban, gyda 35 sedd. O'r 21 sedd a gollwyd, aeth 12 i'r Ceidwadwyr a 6 i Lafur. Dywedodd arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, y gall fod eu hymgyrch dros referendwm arall ar annibyniaeth yn un o'r ffactorau dros y gostyngiad hwn.[7][8] Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol seddi oddi wrth y Ceidwadwyr a'r SNP.

Dosbarthiad y seddi

Gogledd Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynyddodd nifer seddi Sinn Fein a'r DUP; collodd SDLP a'r UUP pob sedd a disgynodd y bleidlais i UKIP yn aruthrol, fel y gwnaeth yng ngweddill gwledydd Prydain.[9]

Dosbarthiad y seddi

Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Nifer y pleidleisiau a fwrwyd
DUP
  
36.0%
Sinn Féin
  
29.4%
SDLP
  
11.7%
UUP
  
10.3%
Alliance
  
7.9%
Gwyrdd
  
0.9%
TUV
  
0.4%
Arall
  
3.3%
Nifer y seddi
DUP
  
55.6%
Sinn Féin
  
38.9%
Annibynwyr
  
5.6%

Arolygon barn[golygu | golygu cod y dudalen]

Arolygon barn

Dangosodd arolygon cynnar y gallai'r Ceidwadwyr gipio 21 sedd yng Nghymru, a chipio mwyafrif y blaid Lafur am y tro cyntaf ers 1918.[10] Fodd bynnag, wedi mis o ymgyrchu gan y pleidiau, dangosodd arolwg barn newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod y pendil yn troi yn ôl at y Blaid Lafur. Roedd yr arolwg yn dangos y gallai'r Ceidwadwyr golli un sedd i Lafur yng Nghymru heb newid o ran seddi i'r pleidiau arall.[11] Roedd hyn yn cael ei ategu gan arolwg ar draws gwledydd Prydain gyda cefnogaeth y Blaid Lafur yn codi o'i lefel isel y mis cynt, er fod y Ceidwadwyr yn parhau i fod dros 10 pwynt ar y blaen.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

1801 cyfethol | 1802 | 1806 | 1807 | 1812 | 1818 | 1820 | 1826 | 1830 | 1831 | 1832 | 1835 | 1837 | 1841 | 1847 | 1852 | 1857 | 1859 | 1865 | 1868 | 1874 | 1880 | 1885 | 1886 | 1892 | 1895 | 1900 | 1906 | 1910 (Ion) | 1910 (Rhag) | 1918 | 1922 | 1923 | 1924 | 1929 | 1931 | 1935 | 1945 | 1950 | 1951 | 1955 | 1959 | 1964 | 1966 | 1970 | 1974 (Chwe) | 1974 (Hyd) | 1979 | 1983 | 1987 | 1992 | 1997 | 2001 | 2005 | 2010 | 2015 | 2017
Refferenda y Deyrnas Unedig Baner Y Deyrnas Unedig
1975 | 2011 | 2016