Galwyd etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966 ar y 31 Mawrth, 1966 gan y prifweinidog ar y pryd: Harold Wilson. Dychwelwyd y Llywodraeth Lafur gyda mwyafrif o 96 Aelod Seneddol.[1] Gwnaeth y penderfyniad hwn i alw etholiad am sawl rheswm; yn gyntaf, dim ond 17 mis ynghynt yr etholwyd ei blaid i lywodraethu ac oherwydd y mwyafrif bychan oedd ganddo, roedd llywodraethu'n fwrn ac yn anodd. 4 aelod seneddol oedd ei fwyafrif. Yn ail, cafwyd isetholiad yng Ngogledd Hull ychydig ynghynt. Roedd yn llygad ei le ac etholwyd y Blaid Lafur yn eu holau - gyda mwyafrif o 96. Noda gwefan y BBC fwyafrif o 363 seats, sy'n rhoi mwyafrif o 96, gan fod sedd y LLefarydd yn cael ei restru fel "Arall".[2]