Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918 oedd yr etholiad cyntaf i'w gynnal ar ôl Deddf Cynrychioli'r Bobl 1918, ac felly yr etholiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig y gallai merched bleidleisio ynddo. Cynhaliwyd yr etholiad ar 14 Rhagfyr1918, er na ddechreuodd y cyfrif hyd 28 Rhagfyr. Enillwyd yr etholiad gan glymblaid rhwng y Blaid Ryddfrydol dan David Lloyd George a'r Blaid Geidwadol dan Andrew Bonar Law. Roedd rhai elfennau o'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Ryddfrydol yn gwrthwynebu'r glymblaid, ond ni fuont yn llwyddiannus iawn. Roedd y canlyniad yn golygu fod Lloyd George yn parhau fel Prif Weinidog. Cafodd y Blaid Lafur lawer mwy o bleidleisiau nag o'r blaen, ond ni fu llawer o gynnydd yn nifer y seddau a enillwyd ganddynt.